Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diwrnod (poed hedd Duw arnynt)
Na fu gas i'n hynaif[1] gynt;
Diwrnod y câd iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw,[2]
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni,
I gyrch gnif, ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod,
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn, a da'u dug
Hosanna,[3] ddiflina floedd
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ag e'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf,
A Chymru o'i ddeutu ddaeth,
I gael y fuddugoliaeth;
Hwyntau, gan lwyddo'u hantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant
Ac urddo'r cenin gwyrddion
Yn goffhâd o'r hoywgad hon,
A bod trwy'n cynnefod ni,
Diolch i DDUW a Dewi.

Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael,
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu, Nef i'w enaid,

  1. Hynafiaid
  2. Dewi Sant
  3. A word very agreeable to the character of the holy Archbishop, signifying, Save us, O Lord and history tells us, that it was the SYMBOLUM, or watchword, &c.