Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd.
Gwir ydyw rhai a gredynt
Yt ddwrdio Angelol[1] gynt,
Sori am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd annwn;
A thrychu fyth o'r achos,
Hyn a wnai'n nydd, yn y nos,
Nes gwneuthur parch (wrth d'arch di,
Satan) a llun tlws iti.
Minau, poed fel y mynych,
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it gyngor rhagorawl,
Na ddŷd nemawr un i Ddiawl:
Gŵr y sy (gwae yr oes hon!)
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy'th genad,
Yna rhuthr onide'n rhad,
Canys os hyn a fyn fo,
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gwr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost;
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog ryw faint o'i gastiau.
Dyn yw, ond heb un dawn iach,
Herwr, ni bu ddihirach,
- ↑ MICHAEL ANGELO, lluniedydd cywraint yn yr Eidal; ni a ddarllenwn am ffrwgwd a fu rhwng Diawl ag ef, am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i ANGELO wneuthur l'un prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen.