Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dy eiriau, Ion clau, clywais,—yn addo
Noddi pawb a'th ymgais;
Ymagored (mi gurais)
Y Nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist (i'th nerthog allu—nid yw boen)
Wneud y byd a'i brynu,
Yn D'wysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—dy weision,
Dewisaist eu noddi;
A minau wyf, o mynni,
Duw Iesu dêg, dy was Di.

Gwaelaidd gynt yn bugeilo—fu Moesen
Ym maesydd hen Jethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.

A'r Salmydd, cynydd Duw cu,—cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.

Minau, Duw Nef, o myni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail[1] Celi;[2]
A doed im' dy eglwys Di.

Ni cheisiaf gan Naf o nefoedd—gyfoeth,
Na gofal breninoedd;
Ond arail ŵyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel, a digon oedd.

(A bendigaid fo'i enw, fe'i gwnaeth.)


  1. Corlan
  2. Enw ar Dduw