Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATEB, I GYWYDD

HUW HUWS. (y Bardd Coch), o Lwydiarth—Esgob ym Mon, a ganwyd yn Walton yn Lancashire, 1753.

PAHAM i fardd dinam doeth,
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain[1] was main nas medd?
Daw Nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant, Duw'n dwr imi!
Deithryn adyn ydwyf.
Gwae fi o'r sud! alldud wyf.
Pell wyf o wlad fy nhadau,
O'ch son! ac o Fon gu fau;"
Y lle bum yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle 'r oedd gynau gant;
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Mon estron wyf;
Dieithr i'n hiaith hydriaith hen,
Dieithr i berwawd awen,
Gofidus, gwae fil ydwyf
Wrth son, a hiraethus wyf;
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoyw gân âg och,
Mewn canu namyn cwynaw,
Ni chytgais na llais na llaw.
Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
Ou gwledydd tra dygludynt
Wyr Seion yn gaethion gynt,
Taergoeg oedd eu gwatworgerdd
"Moeswch ac nac oedwch gerdd."
"Gwae ni o'r byd dybryd hwn,"
Cwynent,[2]
"Pa fodd y canwn,

  1. Crwydrol
  2. SALM cxxxvii