Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.


12. Gwawdodyn hir.

Chwychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw 'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth (pa rodd y leni!)
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer bod achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.


13. Byr a Thoddaid.

Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd;
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried mil a'i carodd,
Hap llesol, pwy a'i llysodd?—Duw Un-Tri,
Ei Geli a'i galwodd.


14. Hir a Thoddaid

Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd,
O'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,
Da fu y rheol, edifarhaodd,
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[1]—â'i Ner,
A Duw, orau Byw-ner, a'i derbyniodd.


15. Hupynt byr

Os tra pherchid
O mawr eurid
Am arwredd
Deufwy cerid
Mwy yr enwyd
Am ei rinwedd


  1. Taergeisiodd