Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

Jones. Clywais ef yn pregethu un waith, a hynny yn hen gapel Wesleaidd Ty Cerrig, Cylchdaith Machynlleth. Yr oedd hynny cyn iddo ymfudo i'r America. Gŵr ieuanc ydoedd y pryd hwnnw, tywyll ei bryd, a hardd ei ymddangosiad. Nid wyf yn cofio ei destun, nac ychwaith ddim o'i bregeth. Ond cofiaf yn dda ei fod yn traddodi ei genadwri gyd â gwres a brwdfrydedd neilltuol, a hynny nes peri cryn gyffro ym mhlith yr hen flaenoriaid a eisteddai dano yn y set fawr, ac yr oedd y dylanwad ar y gynulleidfa yn ddwys, a rhedai y dagrau i lawr dros aml rudd. Mawr oedd y ganmoliaeth iddo fel pregethwr gan y gwrandawyr wedi i'r oedfa fyned heibio.

"Tro arall, pan oeddwn ar ymweliad â'm perthynasau yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1859, cefais amryw gyfleusterau i'w weled a'i glywed. Tynnodd fy sylw mewn modd neilltuol pan gerddai i fyny North Parade ar ei ffordd i hen gapel Queen Street. Cerddai ar ganol yr heol wrtho'i hun, a hynny yn ben isel, a golwg synfyfyriol arno. Yn ystod fy arhosiad yn y dref, mynychais y cyfarfodydd yn gyson; ond ychydig iawn o ran a gymerai ef ynddynt oddieithr fel arweinydd. Ni phregethai o gwbl, ac ni chaniatai i'r gynulleidfa ganu. Yn lle rhoddi emyn i'w ganu cyn gweddio yr arfer oedd darllen ychydig adnodau, a dyna drefn y moddion y naill noson ar ol y llall. Nodweddid y cyfarfodydd â gwir ddefosiwn a chryn fesur o ddwyster. Ni chlywais ddim o orfoledd y Diwygiad yn y cyfarfodydd hynny yn Aberystwyth, fel yn y cyfarfodydd a gynhelid yn ddiweddarach gan y Parch. David Morgan, Ysbyty. Aiff enw y Parch. Humphrey Jones i lawr yn hanes yr Eglwys yng Nghymru fel yr un a fu yn foddion yn llaw Ysbryd Duw i gychwyn Diwygiad Mawr 1859."[1].

Er imi eisoes wneuthur peth defnydd o ysgrifau'r Parchedigion H. P. Powell, D.D., a H. O. Rowlands, D.D., a ymddangosodd yn "Y Drych," America, wedi marw Humphrey Jones, tybiaf mai doeth fydd eu gosod ym mhennod yr Atgofion, oherwydd ceir ynddynt rai

  1. Llythyr, dyddiedig Awst 2, 1928