Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/60

Gwirwyd y dudalen hon

y rhain gan guled ydynt a chan ôl y cynion a ddefnyddid i dorri'r graig. Y mae'n debyg mai'r gweithfeydd a dynnai weithwyr i blwyf Ysbyty Ystwyth yn 1858 a 1859 ydoedd Y Frongoch, Y Lefel Fawr, Grogwynion a gwaith Cwm Ystwyth, a hwyrach ddechrau o Benyglog Fawr a Phenyglog Fach cyn y Diwygiad. Ni wyddys rif tai a phoblogaeth y plwyf yn 1858, eithr yr oedd ynddo 195 o dai a phoblogaeth o 941 yn 1875, ddwy flynedd ar bymtheg wedi ymweliad Humphrey Jones; y tebyg ydyw fod y boblogaeth gymaint os nad yn fwy yn 1858, oblegid yr oedd y gweithfeydd ar eu llawn gwaith y pryd hwnnw.

Y mae hen gapel y Wesleaid lle dechreuodd y Diwygiad wedi ei droi yn beudy, a saif y newydd a adeiladwyd yn 1874, yn ei ymyl. Er nad yw Pontrhydygroes ond pentref bach ynghanol y mynyddoedd, y mae o fewn cyrraedd lleoedd ag y mae iddynt hanes nodedig yng nghrefydd Cymru,-prin filltir sydd i bentref Ysbyty Ystwyth, pum milltir i Bont-ar-Fynach, pedair a hanner i Ystrad Meurig, pump a hanner i Ystrad Fflur, a phedair ar ddeg i Aberystwyth. Aeth Humphrey Jones o Fynydd Bach i Bontrhydygroes ddydd Iau, Medi 30, 1858, a phregethu yng nghapel y Wesleaid y noson honno, ar "Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ol i'w dy?" Cafwyd amryw o nodweddion cyffredin y Diwygiad yn yr oedfa gyntaf,a hynny oherwydd, yn ychwanegol at waith effeithiol y Diwygiwr, y buasai amryw o'r gwrandawyr yng nghyfarfodydd Mynydd Bach a dwyn yn ôl eneiniad y cyrddau hynny. Chwythu'n fflam y tân a'i rhagflaenasai a wnaeth y Diwygiwr yma eto. Nos Wener pregethodd â nerth mawr ar, Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd; mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau. Pregethodd yn fyr, ac yna disgyn i'r Sedd Fawr, a dywedyd, " 'Rwy'n deall fod Mr. David Morgan, gweinidog y Methodistiaid, yma; a ddaw Mr. Morgan ymlaen i gyfarch y bobl?" Ufuddhaodd Mr. Morgan yn ddiymdroi. Dyma weithred gyntaf y Parch. Dafydd