Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

Gyda golwg ar y weledigaeth echryslawn y buoch ynddi, y mae hyny yn beth cyffredin iawn yn ein plith ni yma. Y mae rhai o'r brodyr duwiolaf sydd yma wedi bod mewn gweledigaethau dychrynllyd iawn nes y byddai eu natur bron ac ymollwng oddiwrth ei gilydd nes neidio o'u gwelai fel gwallgofiaid, a gwaeddi fel pe baent ar drancedigaeth; pryd arall mewn gweledigaethau nefolaidd iawn nes y byddent yn llesmeirio yn lân. Darllenais yn y papyr yr wythnos hon eu bod nhw felly yn yr Iwerddon yn gyffredin iawn y wythnosau hyn. Pan glywais i gyntaf am y Diwygiad rhyfedd hwnw darfu i mi wybod ar unwaith ei fod ef o'r un Natur a'r Diwygiad hwn.

Yr ydych yn son eich bod chwi yn ofni ac yn crynu bron i eithafion wrth feddwl gweddio yn gyhoeddus, felly y maent yma, gwelais i amryw o'r brodyr yma yn ymyl llewygu lawer gwaith,ac weithiau yn llewygu hefyd. Yr wyf yn crybwyll y pethau yma er mwyn i chwi weled fod eraill yr un fath a chwi, oblegid does dim yn gweini mwy o gysur i'r meddwl trallodus na gweled eraill yn yr un tywydd. Anwyl Frawd, gallwch fod yn sicr fod yma ugeiniau yn barod i gydymdeimlo â chwi i'r byw, ac yn barod i roddi pob braich o gymorth pe bai modd; ond y mae eich profiad chwerw y fath nad oes neb a fedr weini ail i ddim o gysur i chwi. Rhyw gwpan tebyg i eiddo y Gwaredwr yw ef nad all neb arall yfed dim ohono; ac nad oes dim i ni ein hunain ei ebgor ef. O! am nerth i ddweud fel y dywedodd yntau, Y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef." Buaswn yn caru yn fawr cael eich gweled, ond yr wyf wedi gwneud fy meddwl i fyny nad af fi ddim o'r dref yma nes daw y Diwygiad; os byddwch chwi eisiau cael eglurhad ar rywbeth anfonwch faint y fynoch chwi o gwestiynau, mi dreiaf ateb pob peth a wn i. Y mae pethau yn dal yn hynod o fflat yma o hyd, ac felly y byddant hyd nes daw ein Gwaredigaeth fawr.

Yr wyf yn dal i gryfhau o hyd, ond y mae galluoedd fy meddwl yn para bron yr un fath, ac felly y byddant hyd nes y daw y cyfnod disgwyliedig. Hyn yn fyr oddiwrth eich anwyl Frawd Humpy. Jones.