yn yr eglwys hon allan." Yn ei eglurhad ar anawsterau Mr. D. Delta Davies amlyga wybodaeth ysgrythurol. helaeth a chywir, a dyry iddo gyfarwyddiadau rhesymol ac addas, a'r un pryd daw i'r golwg amhwylledd yn ei hysbysiadau proffwydol a'i esboniad pendant ar yr "Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus."
Oeri'n gyflym a wnaeth gwres y Diwygiad, ac erbyn diwedd 1860, ni cheid mwy na fflamau ysbeidiol yma a thraw. Gwnaeth y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, waith mawr ac annisgrifiol, ac, yn ôl y Dr. Thomas Rees, yn ei "History of Protestant Nonconformity in Wales," dychwelwyd yng Nghymru tua chan mil at grefydd; eithr yn gynnar yn y flwyddyn 1860, pallodd ei nerth yntau. Cyn dechrau Ebrill yr oedd y dylanwad mawr a fuasai'n "cydfyned a'i weinidogaeth wedi cilio yn hollol, ac edrychai'n synllyd, sobr, dieithr a digalon."
Nid oes ar gadw ond ychydig o hanes Humphrey Jones am y naw mlynedd nesaf. Lletyai am rai blynyddoedd yn 49, Marine Terrace, Aberystwyth, cartref Mrs. Richards a Miss Morgan, hen deulu Wesleaidd adnabyddus. Tybir yr ymwelai'n awr ac eilwaith â Dolcletwr, cartref ei fodryb, Sophia, ac y treuliai lawer o'i amser yno. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun methodd a phregethu am bedair blynedd, ond yn ystod y gweddill o'r blynyddoedd pregethai'n achlysurol yn eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Eithr ni chiliodd ei bruddder a'i ofid; gwaethygu a wnaeth o ran corff a meddwl. Trodd i broffwydo, a phroffwydodd lawer, nid yn unig ynglŷn â chrefydd, ond ynglŷn hefyd â theyrnasoedd Iwrop a'u llywiawdwyr, ac ysgrifennai â gallu nodedig ei broffwydoliaethau rhyfedd i'r Times a phapurau eraill. Erbyn dechrau'r flwyddyn 1869, aethai cyflwr ei feddwl cynddrwg oni orfu ar ei gyfeillion ei roddi yng ngwallgofdy Caerfyrddin. Derbyniwyd ef i'r Sefydliad hwnnw Chwefror 24, 1869. Ymddengys oddi wrth dystiolaeth y meddygon nad oedd fodd osgoi'r weithred hon. Dygasai amhariad nerfau'r Diwygiwr ei feddwl i gyflwr mor ddrwg onid aeth yn beryglus i'r sawl a ofalai am dano. Gwelir, oddi wrth y manylion am ei