Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enyn gofid ac anesmwythder mawr yn meddwl Huw, gwnaeth iddo benderfynu, yn gryfach fyth, i ddylyn y llwybr o ddyledswydd a nodid allan iddo gan y Gweinidog. Gwnaeth y trallodion hyn i feddwl y bachgenyn ordyfu ei oedran. Yr oedd ef, bob amser, yn hogyn call a meddylgar; ond daeth yn awr yn ddifrifol tu hwnt i'w oedran.

Y mae peryglon yn hyny, ar rai amgylchiadau, pan y gall colli hoender a chwareugarwch ieuenctid ladd yni a sychu ffynhonell gweithgarwch. Ond hyderwn nad dyna fel y bydd gyda hanes ein harwr.

Dychwelodd y cymydogion i'w cartrefleoedd, y naill ar ol y llall, gan adael teulu William Huws eu hunain, yn eu hannedd ddiddodrefn.

Yr oedd y nos wedi mantellu y fro. Ymddringai y lleuad haner llawn dros gopa Mynydd Bodafon, ac edrychai i mewn arnynt, fel i roddi ffarwel, trwy gangau y boplysen a gysgodai y ffenestr. Torodd Mari ar y dystawrwydd, gan ddywedyd, "A!—y pren bocs! Gobeithio y caiff o chware teg gin bwy bynag ddaw yma i fyw!"

"Ie'n wir!" ebe Huw. "Mi gefis i lawer o bleser wrth drin a thrimio'r coed yna, yn enwedig y pren bocs. Y mae'n debyg y toriff rhywun o i lawr cyn bo hir!"

"Paid a hidio, Huw," meddai Mari, drachefn, wrth weled deigryn yn llenwi llygad ei brawd; "mi fynaf fi gael un neisiach yn yr ardd yn Nerpwl, gael i ti gael pleser pen ddoi di i edrach am danon ni."

Edrychodd William Huws yn dyner ar ei ferch hynaf, yr hon oedd yn dangos y fath anwybodaeth am gyfleusderau ac arferion trigolion tlodion Llynlleifiad. "Chawn ni ddim gardd yno, Mari bach," ebe fe. "Bydd raid i ni fyw mewn lle gwahanol iawn i hwn. Yr unig beth a gawn ni yno, ag sydd wedi'n gwneud yn hapus yma, fydd presenoldeb Duw. Yr wyt ti'n gwybod 'i fod Ef yno fel yma, on' 'twyt ti, Mari?"

"Ydw, nhad—mae O 'mhob man ar yr un waith." "Ydyw, ngeneth i," ebe'r fam wed'yn. Ac yna dyrchafodd ei llygaid i fyny, ac yr oeddynt yn llawn dagrau; a dywedodd, "Os na ddaw Duw gyda ni yno, dysged ni i fyned i i rywle arall!”

"Mam!" meddai Huw—"tybed nad oedd testyn Mr. Lloyd, nos Sul, yn atebiad i hyna— Ni'th roddaf i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith'!"

"Ydyw, machgen," ebe'r tad. "Os byddwn ni'n ffyddlon iddo Ef, ni fydd iddo ein gadael yn unig a dinodded. Chawn ni ddim gardd, na phoplys, na phren bocs, na blodau, yn Nerpwl; ond cawn weled yr awyr, a'r lleuad, a'r ser, yn