Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywynu trwy'r ffenestr, fel yma, ac yn ein hadgoffa o'r hyn a ddywedodd Mr. Lloyd, a ar ei bregeth, am oleuni'n dysgleirio yn y tywyllwch. Cawn y Beibl yno hefyd, a moddion gras. O! yr wyf yn diolch am i mi gael fy nerthu i'ch dwyn i fyny'n blant crefyddol, ac am dy fod di, Huw, yn debyg o gael arweiniad dyn mor dda a Mr. Lloyd. Cofia am dy enaid, fy machgen, yn gystal ag am dy gorff—am dy addysg ysbrydol, yn gystal ag am dy gynnydd mewn gwybodaeth ddaearol. Bydd i ni gyd-weddio llawer drosot ti; gweddia dithau drosot dy hun, a throsom ninau!"

Wylodd Huw yn hidl, a thorodd y plant eraill hefyd i wylo yn uchel.

Yr oedd goleuni y lleuad yn disgyn arnynt yn awr gyda nerth, ac fel yn eu trochi yn ei dysgleirdeb digwmwl. Edrychasant ar eu gilydd, ac yna ar y lloer ganaid, tra yr oedd y syniad naturiol megis yn cyd-enyn pob mynwes, y caffai y lleuad fod yn bwynt eu harsylliad hoff pan wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd o ran lle ac amgylchiadau.

Ar ol ychydig fynydau o ddystawrwydd, galwodd William Huws ar Lowri fach—yr ail eneth—i adrodd y Drydedd Psalm ar Hugain. Ni theimlodd y teulu erioed o'r blaen y fath gysur, oddi wrth sicrwydd duwiolfrydig y Psalm, â'r pryd hwnw, pan oedd Lowri fach yn ei hadrodd yn ei dull syml, a'i llais yn grynedig gan deimlad.

Yna aethant oll ar eu gliniau; ac yr oedd gweddi William Huws yn hynod ddifrifddwys a gafaelgar, wrth orchymyn ei blant—pob un dan ei henw, gyda chyfeiriadau diaddurn at eu gwahanol sefyllfaoedd a'u hanghenion, yn gystal ag ef ei hunan, a'i briod, i ofal a nodded y Nef. Ac nid oes neb, ond y sawl a fagwyd mewn teulu duwiol, a ŵyr am effeithiau'r fath wasanaeth dwyfol ar y galon ieuanc.

Bore dranoeth, aeth Huw i ddanfon ei deulu at y llong oedd yn barod i gychwyn o'r porthladd.

Ni chymerwn arnom geisio cofnodi na desgrifio yr ymadawiad. Yr oedd yn rhy gysegredig a theimladol i'n hysgrifell ni wneud cyfiawnder âg ef. Ni fydd i ni ychwaith adrodd helyntion y fordaith i Lynlleifiad. Cyrhaeddasant y dref fawr, a daeth Owen Huws, brawd William, i'w cyfarfod, ac arweiniodd hwynt tua'r heol lle'r oedd ef yn preswylio ynddi, gan ymddangos yn falch cael eu croesawu.