Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

'They left the barge, and all other feelings were soon absorbed in wonder at the size of the town, and the extreme length, narrowness, and filth of the street." —CHARLOTTE ELIZABETH.

Yr oedd William ac Owen Huws, er yn ddau frawd, eto yn hollol wahanol i'w gilydd o ran tymher, arferion a thueddiadau; ac, oherwydd hyny, ni fu ryw lawer iawn o gydymdeimlad agos, na chymundeb cynes, rhyngddynt braidd erioed. Pan yn llanc, balchder oedd prif nodwedd Owen, ac ymffrostiai lawer yn ei harddwch a'i gryfder. Diystyrodd lawer ar ei frawd am ymfoddloni i dreulio ei ddyddiau goreu "yn y wlad," yn lle penderfynu, fel efe, "ceisio ei ffortiwn yn Nerpwl, neu ryw dref fawr arall." Nid oedd ef, ychwaith, yn meddu parch neillduol i grefydd, er nad oedd yn hynod am anfoesoldeb; tra yr oedd William, er yn fachgen, wedi enill iddo ei hun gymeriad uchel fel llanc a dyn crefyddol.

Wrth gerdded o'r porthladd, tua thŷ Owen Huws, yr oedd cyflwr meddyliol y newyddiaid mewn agwedd ag y buasai y dyfyniad uchod, o waith yr awdures alluog, Charlotte Elisabeth, yn dra phriodol i gyfleu syniad am eu teimladau hwynt. "Synwyd hwynt gan faint y dref, a hyd, culni, ac aflendid" rhai o'r heolydd. Dysgwyliasant weled agwedd harddach ar bethau, a theimlent yn siomedig.

Yr oedd Owen Huws yn byw yn un o'r heolydd sydd yn agos i'r afon Mersey, llawer o ba rai sydd yn hynod am eu hawyr afiach a'u budreddi, a theimlodd y newydd-ddyfodiaid hyny yn boenus ar eu mynediad i'r heol lle'r oeddynt i dreulio ychydig amser yn awr.

Croesawyd hwynt gydag ymddangosiad o garedigrwydd gwresog gan wraig Owen Huws; ond nis gallai plant William lai na thynu gwrth-gyferbyniad anffafriol rhwng ei hymddangosiad hi ag agwedd eu mham hwynt, megis yr oeddynt eisoes wedi gwneuthur gyda golwg ar eu tad a'u hewythr. Nis gallent, ychwaith, lai na galw i gof, lendid, taclusrwydd, a chysuron blaenorol y Ty Gwyn, wrth sylwi ar yr agwedd yr aethant iddi yn awr. Yma, yr oedd y parwydydd melynion ac ystaeniog wedi eu gorchuddio â nifer o ddarluniau o'r math mwyaf plentynaidd, rhai o honynt yn hollol newydd, ac wedi eu dodi yno, yn ddiau, i ddangos chwaeth ragorol gwraig y ty; ond y mae'n gas gan bob dyn coethedig ei chwaeth eu gweled yn mhob man, er eu bod yn dyfod yn lled gyffredin i Gymru yn y dyddiau hyn. Yr oedd y ffenestri wedi eu tywyllu gan faw, a'u haddurno gan weoedd ceinclyd [1] y pryf copyn; ac eto, yr oedd

  1. ansicr ceyd sydd wedi argraffu