Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadol prynwyr, ac eraill gyda golygon boddus, neu dremiadau pryderus, gwerthwyr, heb neb yn dangos gresyndod, nac yn cynyg cerydd, i'r creulondeb, na'r anweddeidd-dra, na'r tyngu, na'r rhegu, na'r taeru, a'r gwrth-daeru, oedd yn hynodi ffair y meirch.

Yr ydym yn teimlo, yn awr, ein bod yn sangu ar dir cynil. Ond, a gawn ni ofyn i'r beirniad a'r darllenydd ystyried ein darluniad anmherffaith o Ffair Pen Tymhor, fel y gwelsom ni hi fwy nag unwaith, fel cais at gofnodi pethau yn ddiderbyn-wyneb. Dichon y brifwn deimladau rhai; ond nid oes mo'r help—ar y Ffair, ac ar y bobl, y mae'r bai, ac nid arnom ni am ddweyd y gwir. Os profir ein bod yn cofnodi ac yn darlunio yn annghywir, ni a ymfoddlonwn i dderbyn cerydd; ond os canfyddir ein bod yn tynu darlun cywir, ymfoddloned yr euogion i'w tynged.

Aeth Huw Huws o heol ffair y meirch i fan arall yn y dref, a gwelodd dri neu bedwar o fechgyn o'r un ardal ag yntau, yn sefyll ar ben heol, a gofynodd iddynt, " A welodd un o honoch chwi mo Mr. Owens, Plas Uchaf?"

"Naddo," attebodd un. "Beth sy arnat ti eisio gyno fo?"

"Wel, y fo ddwedodd wrthyf am ei gyfarfod yn y ffair." "Wyt ti yn meddwl treio cyflogi hefo fo?"

"Os gallaf."

"Ha! 'ngwas I—cymer di ofal rwan na weliff Sion Parri'r Waen monot ti, ar ol bod hefo Mr. Owen!"

"Pa'm? 'Toes a wnelof fi ddim byd â Sion Parri."

"Wel, mae Sion am dreio cyflogi hefo fo heiddiw; ond os ch'di geiff y lle, a Sion wedi meddwl am dano fo, gwae dy gwman di!"

"Ie'n wir," ebe un arall; "achos 'r ydw i'n cofio 'i weled o'n misio cyflogi i le go dda ddwy flynedd i rwan; ac aeth i ddial 'i lid ar y llanc oedd wedi cael y lle. Aeth yn gwffio dychrynllyd rhyngu nhw, a bu agos i Sion a lladd y llanc hwnw."

"Wel, ni roddaf fi ddim achos iddo fo gwffio hefo mi, o ran hyny mae'n rhaid cael dau i ffraeo a chwffio."

"Purion, was—purion. Ond hwda, ddoi di am haner peint?--mae 'na gwrw da ofnadwy yn y White Lion, a lot o hogia' merchaid. Tyr'd."

"Na ddof Jack; nid wyf fi'n arfer dim diod feddwol."

"Oes gen't ti ddim pres? Twt lol wirion! 'Twyt ti'n amser yn gwario dim, ac mae'n rhaid nad wyt ddim ar lawr am bres. Ond os na ddoist ti a dim cregin heiddiw hefo'ch di, mi gei haner peint gin I."

"Diolch i ti'r un fath, Jack; ond nid wyf fi byth yn