Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chymyn Dwyfol, "Tro dy lygaid rhag edrych ar wagedd." Ond pa le bynag yr elai,, nid oedd braidd ddim ond gwagedd i'w ganfod, yn gymysgedig a llawer o anweddeidd-dra hollol annghyfaddas i drigolion gwlad sydd wedi enill enw mawr am ei haelioni crefyddol, am nifer eu haddoldai, ac am gyfraniadau dihafal at Genhadaethau Tramor.

Mewn un man, gwelodd ddau ganwr Baledi, un o honynt yn ddall, a'r llall yn gorffyn mawr, tal, esgyrniog, carpiog, ac aflan, gyda llif melyn o sug tybaco yn rhedeg o'i enau; a'i ddanedd, wrth iddo "wneud gwyneb i ganu," yn edrych gyn ddued a chreigiau golosg Mynydd Paris. Yr oedd llu, o'r ddwy ystlen yn gwrando ar y Baledwyr gyda hwyl ac afiaeth mawr, a genethod glandeg, bochgoch, a thirfion, yn chwerthin yn galonus wrth glywed cerddi gwag, masweddol, gyda rhith ffraethineb, yn cael eu canu:—"ffyliaid yn eu cyfansoddi (y baledi), ffyliaid yn eu canu, a ffyliaid yn eu gwrando," chwedl y pigog Galedfryn.

Yr oedd y llif o bobl yn cynyddu bob awr, nes, cyn pen nemawr o amser, yr oedd yr heolydd yn orllawnion, a bechgyn a genethod, o bob oedran, yn ymwthio yn ol ac yn mlaen, i ddim ond rhythu a phwyo eu gilydd, gan chwerthin, crochlefain, maglu eu gilydd, gwneud gwawd o rywun mwy diniweid nag eraill, lluchio crwyn eurafalau, sarhau benywod; ac y mae yn rhaid i ni ychwanegu, er mwyn bod yn onest a chywir, fod niferi o'r benywod yn cymeryd pethau, y rhai a ddylasant eu hystyried yn sarhad ar eu lledneisrwydd a'u gwyleidd-dra naturiol, fel digrifwch hoff.

Safodd Huw ar gongl heol, a thynwyd ei sylw at ddau amaethwr oeddynt yn ymddyddan a'u gilydd yn agos iddo, ond gyda'u cefnau tuag ato ef, fel nad allent ei weled. Buasai yn cilio ymaith, rhag clywed eu hymddyddan (gan yr ystyriasai ryw gel-wrando felly yn annynol) oni bai iddo glywed ei enw ei hun yn cael ei ddefnyddio fel hyn:—

"Treiwch yr Huw Huws hwnw,—hen was Mr. Lloyd." "Dwn I ddim llawer am dano fo. Ifanc iawn ydi o, onite?"

"Ie, go ifanc; ond mae o'n llanc cryf iawn—digon o waith ynddo fo;—cyhyrau fel ceffyl, a digon o 'wyllys i weithio. Dim ond pwyso ar 'i gydwybod o, mi weithiff ddydd a nos, achos mae o'n g'neud cydwybod o weithio, a chrefydd o wasanaethu'n dda. Nid am fod gin i ddim yn erbyn grefydd egwyddorol o,—na, mi clywais i o'n dweyd 'i olygiadau crefyddol yn lled ddiweddar yma, ac yr oedd yn amlwg i mi 'i fod o'n fwy iach yn y ffydd, ac yn fwy difrycheulyd yn 'i fuchedd, na'n haner ni. Ond mi ellwch