ddrychau llygadrythiad pob gwalch a fynai fyned heibio, a myrdd rhy dyner i fyned trwy orchwylion celyd morwynion ffermydd, gan godi cyn toriad y wawr, a myned i orphwys yn mhell ar ol i holl anian orphwyso;—ac eraill a gwaith celed wedi anffurfio eu cyrff ieuainc, wedi crymu eu gwarau, crebachu eu dwylaw, a gosod argraff o glogyrnwch, afledneisrwydd, a chaledwch anfenywaidd ar eu holl agwedd. Gwelai hefyd ferched canol oed, a holl deithi nodwedd benywol wedi eu dileu oddiar eu golwg allanol, gan gyfnod maith o weithio hollol anaddas ac annghyson âg arferion gwlad Grisitonogol a gwareiddiedig, yn nghyda dylyn arferion ag sydd wedi gwarthruddo cymeriad moesol "Mon Mam Cymru." Hefyd, hen ferched ag yr oedd eu hoedran a'u caledfyd wedi eu hannghymwyso i gymeryd arnynt gyflawni haner yr hyn a ddysgwylid gan forwynion, ond heb ddim mewn golwg, pe methent gael gan neb eu cyflogi, ond pwyso ar y plwyf.
Cerddai dynion a gwragedd o amgylch y lluaws amryddull yma, gyda golwg beirniadol prynwyr caethion, a'u holi yn y fath fodd fel ag i ddangos eu syniad nad oedd iddynt hwy, yn ol trefn Rhagluniaeth, na rhan na chyfran yn mreintiau merched eraill, na dim i'w ddisgwyl ond llafur corff o fedydd i fedd.
"Os oes eisieu diwygiad gyda golwg ar gaethion yr America," ebe Huw Huws, rhyngddo ag ef ei hun, "y mae eisiau diwygiad gyda golwg ar ferched gwledig Cymru."
O'r diwedd, gwelodd Huw yr hwn a chwenychai yn dyfod ato, sef Mr. O Owen, Plas Uchaf. Cafodd ar ddeall nad oedd Mr. Owen wedi cael boddlonrwydd yn nghymeriad Sion Parri'r Waen. "Yr oeddwn dan rwymau, yn ol fy addewid, i'w gyfarfod yn y ffair," ebe'r amaethwr parchus, gan siarad a Huw, nid fel â bôd islaw iddo ei hun yn ngraddfa bodolaeth; "a phan welais ef, yr oedd wedi meddwi. Deallais ei fod wedi gwneud ffwl o hono'i hun gydag un o'r shows yna, ac fod hyny wedi cythruddo cymaint arno fel ag i wneud iddo geisio boddi ei waradwydd mewn diod. Ac yrwan, Huw, os medrwn ni gytuno am gyflog, mi a'th gyflogaf. Faint wyt ti'n ofyn?"
"Faint ydyw'r cyflog cyffredin i rai o fy oed I, syr?" gofynodd Huw.
"Wel, a bod yn onest, nid wyf fi'n meddwl cytuno â thi yn ol dy oedran, o ran ychydig, a dweyd y gwir, o fechgyn o dy oed di a allent wneud y tro i mi. Cefais air da i ti gan dy hen feistr, Mr. Lloyd; ac yr wyf yn foddlawn i ti gael cyflog dyn cyffredin."
"Faint yw hyny, syr?"