"Pum-punt." Cysunasant, gan selio'r cyfamod yn y drefn arferol. "Yrwan, Huw," ebe Mr. Owen, "treia beidio cyfarfod â Sion Parri'r Waen yn y ffair yma. Y mae wedi meddwi digon i fod yn anmhwyllog, a dyn cas ydyw ar y goreu, yn ol fel y clywais ychydig fynudau'n ol."
"Diolch i chwi syr,. Mi a af adref yn fuan. Prydnawn da, syr."
"Prydnawn da, machgen I."
PENNOD VII.
Derbyniodd (am waelfodd wall)
Dynged ei ddrygnwyd anghall.
—DIENW.
AETH Huw Huws i chwilio am un o'r tai hyny lle'r arferir gwerthu cawl, bara, cig, &c., ar ddyddiau ffeiriau, ac yr oedd yn rhaid iddo ddefnyddio ei holl nerth i allu ymwthio trwy y torfeydd trwch a lanwent yr heolydd. A phe buasai yn ddyn o ysbyyd chwyrn a diamynedd, buasai wedi gadael i amryw deimlo pwys ei ddwrn, gan fod yn anhawdd myned llathen yn mlaen heb dderbyn un ai sarhad, neu ddyrnod, neu dripiad troed.
Sylwodd fod yr holl dafarnau yn llawnion—eu ffenestri oll yn agored, a heidiau o lanciau a merched yn eistedd ac yn gosod eu hunain o bwrpas i bobl eu gweled oddiallan, a'u gwyrebau yn fflamgochion gan effaith y ddiod a phoethder yr ystafelloedd. Gwelodd rai llanciau yn estyn eu breichiau allan trwy'r ffenestri, gyda gwydrau yn eu dwylaw, gan alw ar rywrai o'r heol i ddyfod "i gael dropyn;" a chlywai ambell eneth yn chwerthin yn uchel am ben ryw esgus digrifwch, er mwyn denu sylw at ei het newydd a'i chap o rubanau cochion.
Rhwystrwyd ef ar ei ffordd, mewn amryw fanau, gan ymladdfeydd, lle na byddai heddgeidwad byth yn dangos ei wyneb nes byddai'r frwydr drosodd; ac wrth sylwi ar hyny wrth ddyn ag yr oedd ef yn ei adnabod, dywedodd hwnw
"Oni wyddost ti beth ydyw glas anweledig?"
"Na wn I," ebe Huw.
"Ond plismon pan fydd ei eisiau."
Cafodd Huw hyd i ymborthdy o'r diwedd, a galwodd am "bowlied o froth.,' Tra yn mwynhau hwnw, sylwodd fod amryw lanciau yn dod i mewn i'r ystafell, gan lygadrythu arno, ac yna yn myned o'r golwg yn ebrwydd; ac yn fuan,