Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddodd ei galon dro yn ei fewn wrth weled Sion Parri'r Waen yn dyfod i'r ystafell.

Yr oedd Huw newydd gael platiad o fara a chig, ar ol y broth, ac yn dechreu bwyta hwnw, pan ddaeth Sion Parri ato, a dywedodd—"I chwilio am beth fel hyn y dois I yma, ac waeth i mi'r platiad yma na phlatiad arall," a chipiodd y bara a'r cig oddiar Huw, gan ddechreu ei fwyta ei hun. Yr oedd dwsin neu ddau o wynebau yn cael eu hestyn heibio i'r wensgod oedd yn ymyl y drws, ac yn chwerthin yn uchel wrth weled gwrhydri Sion Parri."

Ni ddywedodd Huw ddim, ond edrychodd yn graff ar ei sarhawr, a galwodd am dipyn o fara a chaws. Pan ddaethpwyd a hwnw iddo, dywedodd Sion Parri—"Mi welaf fod gin ti ddigon o arian, gwb, a chin mod I'n lled brin o bres, waeth i mi gym'ryd y bara a'r caws yna hefyd," ac estynodd ei ddwylaw i'w gymeryd; ond cydiodd Huw Huws yn dyn yn y plâd, gan benderfynu cadw meddiant o'i eiddo bellach.

"Beth!" meddai Sion Parri, "cha I mono fo? A wyt ti'n meddwl treio dy nerth hefo mi?"

"Sion Parri!" ebe Huw. "Cefais fy rhybuddio ddwy waith, heddyw, i dreio peidio dy gyfarfod di yn y ffair, am dy fod yn ddyn cas a dialgar; ac mi fuasai'n dda genyf beidio bod yn yr un fan a thi. Yrwan, yr wyf yn gofyn i ti—yr wyf yn crefu arnat beidio bod yn gas. Gad lonydd i mi, a boed i ni fod yn ffrindiau. Os nad oes genyt ti bres i dalu am fwyd, mi dalaf fi am bryd i ti; ond chei di mo hwn. Fyni di blatiad ar fy nghost I?"

"Da machgen I, wir," ebe dyn mewn cryn dipyn o oedran, "Mae sens yn dy ben di, pwy bynag wyt ti. Gad lonydd i'r llanc, Sion! Mae'n g'wilydd dy fod bob amser yn chwilio am ryw mewn ffair!"

"Wytti am gym'ryd i bart o?" gofynodd Sion, gan droi at y dyn oedranus.

"Nag ydw I. Ond, ar y fan yma! chei di mo'i faeddu o."

"Tendia dy hun, ynte!" gwaeddodd Sion, gan geiso taro'r hen wr. Cododd hwnw ar ei draed, gan osod ei hun mewn agwedd hunanamddiffynol.

Neidiodd Huw i fyny, a dywedodd "Cawsit fy maeddu fi yn led dost, Sion, cyn y buaswn yn rhoi esgus i ti fy nharo; ond nis gallaf oddef i ti gyffwrdd â'r hen wr yna," a neidiodd rhwng y ddau. Cyda hyny, tarawyd Huw ar ei enau nes oedd y gwaed yn llifo; a gwelodd, bellach, nad oedd modd osgoi neb adael iddo ei hun a'r hen wr glew gael cam. Llamodd Huw at wddf Sion Parri; cydiodd afael yn