galaru, pryderu a gobeithio yn amgylchiadau William Huws a'i deulu. Byddai weithiau yn cael gwaith cyson am fisoedd, ac adegau eraill heb waith am wythnosau olynol. Yr oedd hyn yn eu cadw mewn tlodi parhaus, ac yn analluogi William i roddi yr addysg, na'r ymborth, na'r dillad, a ddymunai roddi i'w dair geneth.
Yr oedd Mari, erbyn hyn, wedi myned yn afiach hollol, ac argoelion darfodedigaeth cyflym arni. Yr oedd ei hawydd am fwyd yn parhau, a bu gorfod i'w mham, lawer adeg, ei thwyllo gyda golwg ar lawer tamaid, trwy amddifadu ei hun o hono, ac ar yr un pryd gadael i Mari gredu nad oedd hi yn cael dim mwy na'i chyfran ei hun. Ond nid oedd yr ymborth yn ymddangos yn meithrin dim arni. Daeth yn fwy gwelw, yn fwy diegni, ac egwan. Ond, er hyny, ni chlywyd hi byth yn achwyn, nac yn grwgnach. Daeth e Bibl yn fwy gwerthfawr yn ei golwg, a mynych y clywid hi yn adrodd adnodau melus hyd yn nod yn ngweledigaethau breuddwydion y cyfnos
Ond er fod sylwi ar afiechyd a dadfeiliad eu merch hynaf yn peri gofid calon i William a Marged Huws, eto, yr oedd sylwi ar y cyfnewidiad yn nhymer ac ysbryd Lowri, yr ail eneth, yn ganmil chwerwach iddynt. Ni waethygwyd fawr ddim ar iechyd Lowri; ond tyfodd yn gyflym, a daeth yn dálach na chyffredin o'i hoedran; ac yr oedd harddwch ei pherson yn destyn sylw mynych y sawl a'i gwelai. Oherwydd nad allai ei rhieni dalu am ysgol iddi hi a'i chwaer leiaf, Sarah, yr oedd hi yn mýnu rhyddid i dreulio llawer o'i hamser ar hyd yr heolydd, a thua'r porthladd, a ffurfiodd gydnabyddiaeth ag amryw enethod, rhai mwy, a rhai llai, na hi,—genethod nad ŵyr neb yn iawn pa fodd y maent yn byw. Dylanwadodd cwmniaeth ac ymddyddanion y rhai hyny yn niweidiol ar feddwl y Lowri ieuanc, a phan ddychwelai adref yn yr hwyr, archollid calonau ei rhieni wrth glywed ei hymadroddion isel, ei hatebion chwyrn, a'i geiriau chwerwon wrth ei chwaer glaf. Cymerodd balchder hefyd feddiant o'i chalon. Clywodd, lawer gwaith, ddynion gwagsaw, wrth fyned heibio iddi ar yr heol, yn sylwi ar ei harddwch; a daeth i drachwantu gwisgoedd, ac i ddyheu am wychder.
Dyna gychwyniad peryglus ofnadwy i eneth ieuanc. Ni phallodd William Huws a chynghori a rhybuddio ei eneth, ac efe a offrymodd lawer gweddi ddirgel ar ei rhan. Collodd ei mham hefyd lawer o ddagrau wrth ymddyddan â hi, a gobeithiasant ill dau y byddai i olwyn Rhagluniaeth droi yn fuan, dwyn iddynt well moddion i ddarbod ar gyfer eu plaut, ac y dychwelid Lowri i gyflwr gwell o ran