Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hysbryd pan gaffai hi ddillad newydd cyfaddas i fyned i Addoliad Dwyfol ac i'r Ysgol Sul.

Yr oedd y lodes leiaf—Sarah—yn llawn serch a thynerwch, ac yn dangos pryder dwys yn nghylch ei chwaer hynaf, a'r ufudd-dod llwyraf i'w rhieni.

Aeth blwyddyn arall heibio, fel yna, heb i ddim neillduol iawn ddygwydd yn amgylchiadau tylwyth y Cymro gonest a gweithgar, oddigerth fod Mari yn myned yn wanach wanach—Lowri yn tyfu'n falchach falchach, a Sarah yn cynyddu mewn lledneisrwydd a serch.

Un noson oer, tua gwyliau'r Nadolig, yr oedd y teulu, oddigerth Lowri, yn yswatio o gwmpas tân bychan,—rhy fychan i gadw yr oerni allan o'r ystafell wael. "Pa le mae Lowri?" gofynodd y tad.

Ocheneidiodd y fam, a dywedodd "Welais i moni hi er y bore!"

Gallesid gweled gwyneb William Huws yn cael ei ddirdynu megis gan boen ingol wrth glywed hyny; a threiglodd deigryn gloyw dros rudd welw Mari, fel gwlithyn perlawg ar rudd lili benisel.

Aeth awr ar ol awr heibio, ac ni ddychwelodd Lowri. Diffoddodd y tewyn olaf o dân, a danfonwyd Sarah i'w gwely, ac ni ddychwelodd Lowri. Gwelodd y rhieni fod Mari yn edrych yn wanach a mwy lluddiedig nag arferol, a pherswadiwyd hithau hefyd i fyned i orphwyso; hi a aeth, ac ni ddychwelodd Lowri. Clywyd yr awrlais mawr yn y clochdy cyfagos yn taraw unarddeg, ac ni ddychwelodd Lowri. Ond am haner awr wedi unarddeg, hi ddaeth i mewn.

Pe buasai drychiolaeth wedi ymddangos i William a Marged Huws, ni fuasai modd iddynt ddangos arwyddion mwy o syndod a braw nag y gwnaethant wrth weled eu hail ferch yn dyfod i fewn yr adeg hono. Yn lle ei hen fonet gwael, yr oedd ganddi fonet newydd am ei phen, a rhubanau amryliw ynddo; a shawl felyngoch deneu am ei hysgwyddau. Syllasant ill trioedd ar eu gilydd, am enyd, mewn dystawrwydd poenus. O'r diwedd, beiddiodd Lowri ddywedyd, "P'am'r ydach ch'i'n rhythu arna' i fel yna?"

"O! Lowri," ebe'r fam, —"p'le buost ti mor hir? A beth ydyw'r dillad yna sydd am danat ti!"

Gwelwyd arwydd gwan o gywilydd ar wyneb yr eneth, ac yr oedd gwg a gwrid fel yn ceisio meistroli eu gilydd i gael ymddangos ar ei gwedd, yn arwydd fod Dyledswydd a Gwrthryfel yn ymryson am orsedd ei chalon. Ond Gwrthryfel a drechodd. Gorchfygodd yr eneth ei theimlad, a dywedodd "Pa'm y rhaid i chwi edrach mor ddig am mod