Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

urdd o dderi ac ynn," ar y llaw arall gan nant ddyfriog a hoediog, hoff gyrchfan plant y plwyf ar bererindod i "hel nythod adar," neu gasglu mwyar duon, —a'r gyfran arall o hono yn cael ei warchod gan "y mor mawr llydan." Ac yr oedd, yma ac acw hyd y cae, goed o amryw faintioli ac oedran,—mewn un man, boncyff hen goeden batriarchaidd, gydag ychydig ysbrigau gwyrddion yn ymdarddu o honi, fel plant eiddil henaint, gweddill egwan hen yni grymus ;yn y fan arall, teyrn coediog o gyfnod diweddarach, yn ymdyru fry yn mawreddigrwydd ei falchder deiliog a changhenog; ac mewn manau eraill, coed eraill, iraidd a cheinfalch, yn edrych fel cystadleuwyr awchus a gobeithlawn am fawredd dyfodol, wedi eu mantellu mewn gwyrdd tynerach na'u cymdeithion hŷn.

Yr oedd cynulliad lled luosog o wyr, gwragedd, a phlant, gwyryfon, a llanciau, i'w canfod o gwmpas bôn y dderwen gauadfrig ar ganol y cae. Gwelid y gwladwr gwyneb-felyn, yn ben-noeth, neu gyda'i ffunen gottwm wedi ei chylymu am ei dalcen, gyda chwys pa un y llafuriodd efe'r ddaear ac y medodd ac y casglodd y cynhauaf. Gwelid hefyd y fam brysur, gyda'i chap gwyn a glân, a'i edging llydan, ei ffunen felen wedi ei chroesi yn dwt dros ei hysgwyddau ac ar draws ei bronau, a blaenau'r ffunen yn cael eu diogelu dan fand a llinyn y barclod (arffedog) frith "newydd sbon danlli." Yno yr oedd yr "hoglanc ifanc," cryf a heinif, yn ymfalchio yn foddus o herwydd ei ddyrchafiad diweddar i blith y dosbarth cryfach o lafurwyr; a'r eneth fywiog, yn cydmaru rhifedi y beichiau a loffodd hi, gyd ag eiddo ei chyd-loffesau ieuainc; ac yno hefyd yr oedd ieuenctyd yn ei holl raddau, i lawr at y baban sugno;—i gyd wedi ymgasglu i fwynhau gwledd diwedd y cynhauaf, yn ol dull diwygiedig Mr. Owen o gynal y gyfrvw wledd.

Gan fod enw Mr. Owen wedi ei grybwyll fwy nag unwaith yn ystod y chwedl hon, dichon yr hoffai y darllenydd gael gwybod tipyn yn rhagor am dano. Efe oedd amaethwr mwyaf a chyfoethocaf yn y parth hwnw o'r wlad, ac yr oedd yn cael ei ystyried fel tipyn o dywysog yn y rhandir wledig hono. Yr oedd yn ddyn da yn ol ystyr ehangaf y gair-yn ddyngarwr goleuedig, yn ysgolhaig gwych, yn wladgarwr mawr, ac yn Gristion gloyw. Astudiodd lawer ar y natur ddynol, ac argyhoeddwyd ef mai y ffordd effeithiolaf i'w gwella oedd trwy dynerwch a serch, ac nid trwy sarugrwydd a thaeogrwydd. Cafodd ei foddhau yn fwy nag arferol yn ymddygiadau ei weinidogion a'i gynorthwywyr huriedig yn ystod y cynhauaf oedd newydd gael ei gasglu; a phenderfynodd yntau eu gwobrwyo yn ol eu