Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithgarwch a'u hymddygiadau da. A dyna ystyr yr ymgynulliad hwnw dan y dderwen frenhinol ar gae mawr y Plas uchaf.

Pan oedd y byrddau annghelfydd wedi eu hulio ag ymborth helaethlawn a sylweddol, a phawb yn barod i wneuthur pob cyfiawnder â'r bwydydd, gwelwyd dau ddyn yn dynesu at y lle, a dyrchafodd y bobl floedd groesawgar pan welsant mai Mr. Owen oedd yn dyfod, gyda rhyw gyfaill. Adnewyddwyd y floedd, gyda gwresogrwydd mawr, pan adnabyddwyd y boneddwr arall—Mr. Lloyd, hen weinidog hoff yr ardal gyfagos, yr hwn oedd wedi bod cyhyd yn anwylddyn trwy'r holl blwyfi amgylchynol, a'r hwn nad oedd wedi ymweled â'r ardaloedd hyny byth ar ol ei ymadawiad, hyd y tro annysgwyliadwy hwn.

Wedi cyrhaedd y fan, edrychodd Mr. Owen a Mr. Lloyd yn foddus ar y cynulliad dedwydd hwn. Offrymodd y gweinidog weddi fer, fel "Gras Bwyd," cyn i'r gwladwyr siriol ddechreu ar y wledd. Tra'r oeddynt hwy yn mwynhau yr ymborth, aeth Mr. Owen o gwmpas un bwrdd, a Mr. Lloyd o gwmpas bwrdd arall, gan gymell y bobl syml i fwynhau eu hunain, a siaradai Mr. Lloyd â phawb o'i hen gydnabod. Daeth yn fuan at y fan lle'r oedd Huw Huws yn eistedd, a gwelodd fod gwyneb coch y llanc yn ymddysgleirio gan lawenydd wrth weled ei hen feistr yn dynesu ato. Dododd Mr. Lloyd ei law ar ysgwydd y llanc, a dywedodd "Wel, Huw, mae'n dda genyf dy weled. Nid oes angen gofyn pa fodd yr wyt; y mae dy olwg yn ddigon. Yr ydych wedi cael cynhauaf prysur."

"Do, syr," ebe Huw; "a chynhauaf da-y goreu a welais i erioed; ac y mae genym achos mawr i fod yn ddiolchgar i Dduw am hyny. Mi fyddai'n anhawdd genych gredu, syr, pe bawn yn dweyd gynifer o dywyseni a gyfrifais i ar un paladr."

"Na fyddai, machgen I,—ond ni wiw i mi dy alw'n fachgen bellach, ni fyddai'n anhawdd genyf dy gredu, o herwydd y mae trugareddau Duw yn afrifed; ond y mae'n dda genyf dy fod di'n sylwi ar beth felly, ac yn cael dy dueddu i fod yn ddiolchgar. Y mae'n ymddangos i mi dy fod yn dyfod ymlaen yn lled dda yma?"

"Ydwyf, syr; ac ni pheidiaf byth a diolch i chwi am fy nghyflwyno i sylw Mr. Owen."

"Yr oeddwn yn credu y cawsit feistr da ynddo ef." "Nid oes ond un cystal ag ef, syr. Y mae yn ein hadnabod ni fel llafurwyr; nid ydyw yn edrych arnom fel rhyw ddarnau o waith machine, heb fod yn dda i ddim ond cyhyd ag y medrwn wneud y gwaith. Y mae cwlwm agos rhyng-