Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

om ni ag ef, ac er ei fod ef yn gyfoethog, nid yw'n ceisio gwadu'r berthynas rhyngddo a'i lafurwyr, Y mae'n gwneud i ni gredu, os ydyw ef yn bobpeth i ni, ein bod ninau yn rhyw werth yn ei olwg yntau.’

"Gwyn fyd na fyddai amaethwyr Cymru, yn gyffredinol, yn fwy tebyg iddo! Gan gofio, mi a glywais Mr. Owen yn dyweyd dy fod di wedi cael tipyn o godiad ganddo'n ddiweddar."

"Do, syr, mi gefais orchwyl newydd, i fod o gwmpas y ty, ac i ofalu am yr ardd, a phethau eraill; ac y mae fy nghyflog yn fwy rwan nag erioed, heblaw fod genyf fwy o amser i geisio gwybodaeth, a gwaith ysgafnach."

"Wel, ar ol cael gwaith a hyfforddia fwy o amser i ti ddarllen, yr wyf yn dysgwyl y curi di holl lenorion Cymry o hyn allan. Yr oedd yn dda genyf weled dy enw fel cystadleuwr buddugol yn Eisteddfod M——— y dydd o'r blaen. Y mae sylwi ar hanes y cyfarfodydd rhagorol hyn yn ddigon i wneud dyn ymfalchio o bobl dlodion ei wlad—gwlad hefo gwerin lênyddol—crefftwyr, hwsmyn, glowyr, labrwyr, a gweithwyr o bob math, yn cyfoethogi ein llenyddiaeth. Yn wir, y mae anrhydedd mewn bod yn Llafurwr Cymreig; ac yr wyf yn llawenychu fod fy hen was I yn sefyll mor uchel am dalent a gwybodaeth, yn mysg y dosbarth gweithgar Cymreig."

"Diolch i chwi, syr," ebe Huw; ac ymdaenodd gwrid ysgafn dros ei wyneb-gwrid cymysg o falchder a gwyleidddra.

"Dos ymlaen, Huw," ebe Mr. Lloyd, —"paid a gadael i mi dy rwystro i fwynhau'r wledd. Gallaf ymddyddan tipyn â thi heb dy amddifadu o'r pleser. Pa bryd y clywaist ti oddiwrth dy rieni?"

"Wel, syr, go anaml y byddaf yn cael llythyr."

"Sut y maent?"

"Y mae arnaf ofn nad yw pethau cystal hefo nhw ag y mynant i mi gredu. Y mae rhyw dôn drist ar bob un o'u llythyrau, er eu bod yn ymdrechu cuddio pob trallod oddiwrthyf fi. Ond y mae serch yn beth pur graff; ac yr wyf yn sicr fod fy nhad a fy mam, a fy chwiorydd truain, wedi dyoddef llawer, os nad yn parhau i ddyoddef;" a llanwodd llygaid y llanc â dagrau breision.

Gwelodd Mr. Lloyd byd ei fod wedi cyffwrdd â chord tyner yn nghalon Huw, a rhag peri ychwaneg o boen iddo, efe a ddywedodd "Paid edrych ar yr ochr dywyllaf i'r cwmwly mae dau du i bobpeth, Yrwan, gorphen dy ymborth, a bydd siriol. Caf dy weled eto'n fuan. Rhaid i mi fyned i ysgwyd llaw ag eraill o fy hen gyfeillion."