Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Mr. Lloyd a Huw Huws yn ymddyddan yn isel; a chan fod Huw yn eistedd ar gongl un o'r byrddau, yr oeddynt yn gallu siarad heb i braidd neb eu clywed. Ond yr oedd yr ymddyddan wedi cynhyrfu ffynhonell serch y llanc, ac nis gallai atal y gofer rhag tarddu allan trwy ei lygaid. Ni fwytaodd ddim rhagor.

Wedi darfod y wledd, anerchwyd y dyrfa yn syml a serchus gan Mr. Lloyd; offrymwyd gweddi a mawl am y cynhauaf godidog a gafwyd i ddiddosrwydd, ac ymadawodd pawb a'u calonau yn llawen ac ysgafn, oddigerth calon Huw Huws.

PENNOD Χ.

Thus it is that we bear within us an irresistible attraction to our earliest home. * * How familiar was everything before me!—DEVEREUX.

Pan oedd Huw Huws yn yr ardd, bore dranoeth, daeth Mr. Lloyd ato, ac ar ol son am amryw bethau cyffredinol dywedodd y boneddwr parchedig—"Huw, byddai'n ddrwg genyf beri chwaneg o boen i ti, oherwydd mi a welais neithiwr fod meddwl am drallodau dy deulu yn archolli dy galon. Ond, y mae'n rhaid i ni fod yn wrol, ac y mae arnaf eisiau siarad tipyn yn rhagor am danynt; a gwyn fyd na fyddai modd eu cael yn ol i'r wlad!"

"Ie'n wir!" ebe Huw, gyda llais yn crynu gan deimlad dwys. "A gwyn fyd na fuasent erioed wedi myned i Loegr! O! Mr. Lloyd, gwnewch faddeu i mi am fy ngwendid, a chydymddygwch a mi tra'n dweyd fy mhrofiad ar y mater?"

"Gwnaf, was—gwnaf! Yr wyf yn gallu cydymdeimlo'n ddwys â thydi. Dywed dy deimladau yn ddigêl; ac os gallaf dy gynghori a'th gynorthwyo, mi a wnaf hyny yn ewyllysgar."

"Wel, syr, wedi'r ymddyddan neithiwr, daeth llif o hiraeth cryf dros fy meddwl; a chyn gynted ag y gorphenwyd gweddio, teimlais awydd, na's gallwn ei wrthwynebu, am gael ymweled unwaith yn rhagor â hen dy fy nhad. Cerddais yn gyflym ar draws y caeau a'r rhosydd, a chyrhaeddais y fan erbyn tua haner nos. Yr oedd y lleuad naw nos oleu yn arianu'r hen barwydydd, a'i goleuni yn chwareu rhwng dail a changau yr hen goed poplys. Ychydig gyfnewidiad sydd i'w weled yn agwedd allanol y lle; ond, er hyny, ni's gallwn beidio tristâu wrth feddwl nad ydyw mwyach yn gartref i mi. Teflais fy mreichiau plethedig ar draws y