llidiart, gan bwyso fy mhen ar y post, a syllais yn brudd ar hen gartref fy maboed—yr hen Dy Gwyn—gan ymollwng i fyfyrdod dwys a byw am enyd yn nghanol gweledigaeth adgofus am yr amser dedwydd gynt, A rhaid i mi ddweyd, syr, fy mod yn teimlo'n siomedig am nad allwn weled yr un gwyneb hapus yn dod i edrych arnaf trwy'r hen ffenestr, neu'n ymddangos yn y drws, yn fy nghroesawu i dŷ fy nhad. Pan yn teimlo'n siomedig felly, gwelwn gi'n dychwelyd at y ty, ar draws y llain, a phan welodd fi, ymddangosodd fel pe buasai'n falch o gael cyfle i wneud iawn am iddo fod yn chware triwant, a chyfarthodd arnaf yn uchel, gan ymddangos i mi fel pe yn fy adgofio nad oedd genyf hawl i fod yn y fan hono bellach."
"Ond, pwy a ŵyr, na fydd y Ty Gwyn yn gartref i ti eto?" ebe Mr, Lloyd yn dyner. " Y mae'r dyn sydd yn byw yno'n awr ar fedr ymadael tua chalangauaf; ac os bydd modd yn y byd, mi a ymdrechaf ei gael yn ol i'r hen aneddwyr. Ond y mae'n rhy fuan i gynllunio am hyny yn awr. Gad wybod sut y terfynodd yr hynt yma o'th eiddo?"
"Wel, syr, pan ymddygodd y ci ataf mor ddigroesaw, ni's gallwn beidio dweyd wrthyf fy hun, 'Wel, wel, mi a welaf mai estron wyf fi yma rwan, a gall unrhyw gi fy ngwahardd rhag sangu ar gartref cyfran fwyaf dedwydd fy oes!' Cyfodais yn araf, a mesurais fy hun yn erbyn hen bolyn a suddwyd yn y Hawr gan fy nhad, ac wrth yr hwn y byddai fy mam yn arfer rhwymo un pen i'r rhaff i ddal dillad i sychu, a gwelais fy mod wedi cyfnewid yn ddirfawr,—wedi dyfod yn ddyn, o ran maint, beth bynag am gymhwysderau dynol; a dywedais wrthyf fy hun—'Wel, rhaid i mi ymdrechu bod yn ddyn o ran calon ac ymddygiad hefyd, a mýnu gweithio o ddifrif er mwyn fy nheulu trallodus.' Troais i fyned i ffwrdd, ond edrychais o fy nghwmpas unwaith drachefn, cofiais am y noson olaf y buom yn y Ty Gwyn —ymweliadau'r cymydogion, a thristwch fy rhieni wrth ffarwelio a hwynt, —daeth y bennod, y weddi, ac ing galarus yr ymadawiad, i gyd i fy fy nghof. Gwesgais fy nwylaw yn dynion, ac ocheneidiais weddi ar ran y rhai anwyl hyny sy'n mhell oddiwrthyf, ac ar fy rhan fy hun, ar fod i mi gael fy nerthu i'w cynorthwyo a'u cysuro. Prysurais adref—y mae'n dda i mi wrth y cartref yma, Mr. Lloyd; ond nid allwn gysgu dim gan dristwch fy myfyrdodau. Maddeuwch i mi, syr, am eich poeni â fy hanes!"
"Nid oes genyf le i faddeu, Huw; y mae'r cyfryw deimladau yn anrhydedd i un o dy oedran a dy sefyllfa di. Ac yn awr, heb ewyllysio peri dim rhagor o boen i ti, y mae'n rhaid i mi ddweyd fy mod yn ofni nad yw pobpeth yn gysurus