Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wron gan ei gydweithwyr ar ol adrodd y chwedl uchod, yr hon, yn ddiau, oedd gyn wired â llawer.

"Diawsti!" meddai'r gwas Owen, "y mae'n 'difar arw gin i na faswn wedi dangos i Ned y Rhos mai nid y fo ydi brenhin y wlad!"

"Gwnaethost yn gall peidio, Owen," ebe'r hen hwsmon. "Y mae'n 'difar gin i fy mod wedi difetha cimint ar fy nerth, a fy amser, a fy arian, hefo gweilch fel y fo a'i ffasiwn. A phe daet ti'n cym'ryd fy nghyngor i, was, taet ti byth i'w cwmpeini nhw, ond hyny. Cymer siampal oddiwrth Huw Huws yma, rwan, dyma i ti fachgen yn gwario'i amser yn iawn. Ar y fan yma, mae'n falch gin i fod ar yr un ffarm a fo! Welodd neb erioed mono fo yn y dafarn, nac yn gneud ffwl o hono'i hun. Owen, was, gad i mi ofyn i ti eto i seinio titotal, a pheidio byth myn'd ar gyfyl gweilch fel Ned y Rhos a Wil y Bryn."

"Gin gofio," ebe un arall, "yr oeddwn i am ddeud peth glywis i heiddiw am y ddau gnaf rheiny."

"Wel, beth newydd sydd am danyn nhw."

"Mi wnaf lw nad oes dim dillad newydd am danyn nhw," ebe un o'r morwynion, yr hyn a barodd chwerthin uchel.

"Wel, gad wybod beth glywist ti, Sion."

"Mae'r ddau'n ddigon saff yn Bliwmaras. 'Roeddan nhw wedi gwario'u tipyn arian i gyd, wrth feddwi; a neithiwr, daliwyd y ddau yn tori cist Tafarn y Fudde Fawr, ac yn dwyn yr arian. Cant 'u treio yn y sessiwn nesa."

"Dyna wers i chi, lads!" ebe'r hen Risiart. "Wybod yn y byd beth fasa'n dwad o hono inau, daswn i heb seinio dirwest cyn i'r hen ddiod fyn'd yn drech na mi. Huw, dwad rwbath wrth y bechgyn yma—gwyddost fod dau ne dri o honyn nhw yn rhy ffond o lymeitian."

"Yr ydwyf wedi bod yn ceisio perswadio Owen a Sion lawer gwaith," ebe Huw Huws, i roi'u henwau ar lyfr dirwest—i ymwrthod â chwmpeini drwg—i brynu llyfrau a defnyddio'u horiau segur i ddarllen, ac i roddi eu harian gweddill heibio erbyn amser a ddaw. Yn wir, lads, ddaw byth ddim daioni o fyned i'r tafarnau, a gwastraffu amser yn ofer, a lolian gwirion, a rhodiana'r nos, fel y mae rhai o honoch chwi'n gwneud. Nid oes llanciau yn yr holl wlad yn cael cymaint o amser ag ydym ni, o ran mae Mr. Owen yn lwfio i ni noswylio'n gynarach, ac yn rhoi mwy o fanteision i ni, nag a rydd un meistr yn y Sir i'w weision. Ac yn wir, mi fydd fy nghalon i'n brifo'n aml wrth weled Owen a Sion yma yn gwario'u hamser a'u cyflogau mewn oferedd a wagedd. Bydd yn edifar genych, lads, pan ddowch dipyn hynach. Edrychwch ar Rhisiart Prisiart, rwan,—dyna