i chwi hen wr, yn ol ei gyffes ei hun, sy'n ddyledus i sobrwydd am ei fod yrwan yn y sefyllfa y mae. Chwi welsoch yr hen Edward Parri, Ty Cefn yn myn'd i'r workhouse ddydd Llun diweddaf. Beth oedd yr achos? Dim ond yfed. Yr oedd ganddo fywioliaeth daclus unwaith; ond aeth trwy ei dipyn arian, a dyna fo yn y workhouse rwan, yn ddigon gwael ei lun."
"Da machgen i, Huw," ebe'r hen hwsmon. "Ti ddeudist y gwir am dana i, wel'di. Mi ofynodd mistar i mi ddoe Wel Rhisiart,' medda fo, 'rwyt ti'n myn'd yn hen, ac fedri di ddim dal i weithio'n llawer hwy. Beth naet ti 'tawn ni'n dy droi di i ffwrdd oddiar y ffarm rwan?' 'Wel, mistar,' meddaf finau, 'bydda'n bur ddrwg gin i; ond 'rydw i'n treio pyrtoi ar gyfer peth felly, trwy fyw'n sobor a chynil.' Faint sydd er's pan wyt ti'n ddirwestwr?' medda fo. 'Ugain mlynedd a chwech wythnos union,' ebwn inau. 'Wel, faint o les i dy boced di naeth ugain mlynedd o ddirwest?' 'Hyn, syr: Yr oeddwn i'n arfer gwario ceiniog a dimai bob noson waith am gwrw, a thair ceiniog (pris peint wyddoch) bob Sul; heblaw rhagor ar amser gwyliau o sport. Wel, syr,' meddwn i, 'pan seinis i ddirwest, mi benderfynis roi'r pres rheiny i gyd heibio hefo'u gilydd, yn reit saff, o dan glo. Ceiniog a dimai bob diwrnod gwaith o'r wythnos yn gneud naw ceiniog, a thair ceiniog ar y Sul, dyna swllt yn yr wythnos; swllt yr wythnos ydi pedwar swllt y mis; pedwar swllt y mis ydi dwy bunt ac wyth swllt y flwyddyn, a chyfri' dim ond deuddeg mis pedair wythnos yn mhob blwyddyn; ac wrth gyfri'r pedair wythnos arall, dyna ddwy bunt a deuddeg swllt. Mi roddais hyny heibio bob blwyddyn, am ugain mlynedd, syr,' meddwn i wrth mistar; a phan ddaeth yr ugain mlynedd i ben, mi eis i gyfri'r arian, ac yr oedd yno ddeuddeg punt a deugain, syr. A dyna swllt yr wythnos, am chwech wythnos, wedi cael'u rhoi atyn nhw wedyn; ac felly, mae gin i ddeuddeg punt a deigian a chwe swllt. Dyna un dioni naeth dirwest i mi.' 'Wel. Rhisiart,' medda mistar, 'mae'n dda gin y nghalon i glywed hyna. Ac yr ydw i'n meddwl am adael i ti gael gorphwyso'n lled fuan bellach. Rhaid i ti brynu tair buwch reit dda; cant bori ar fy nhir i am ddim, â chei ditha dŷ a gardd yn ddi rent; felly, rhwng y peth a ddaw'r gwartheg i ti, a thipyn o bethau erill, gelli fyw'n reit gysurus heb weithio mor galed.' Dyna i chi, lanciau, beth ydi gwerth bod yn ddirwestwr!"
"Ie," ebe Huw Huws—"heblaw y fantais y mae byw'n sobr yn roddi i ddyn gasglu gwybodaeth, gwrteithio'i feddwl, ac enill carictor da yn y byd."