Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Lanciau, dowch at'ch swper," ebe un o'r morwynion.

Cododd pawb yn ebrwydd, gan eistedd ar feinciau o amgylch bwrdd onen hir, praff, wedi ei ysgwrio nes yr oedd yn ysgleinio, ac yn edrych gyn wyned ag eira unnos.

Dodwyd crochan mawr ar y bwrdd, yn yr hwn yr oedd uwd rhynion yn mygu ac yn pwffio fel i'w croesawu i ymddigoni. Yr oedd picyn, sef llestr pren, gyda chlust wrtho, a thri cylch bychan gloew am bob picyn, wedi ei osod ar gyfer pob gweithiwr, a phob picyn yn dri chwarter llawn o lefrith tew digymysg, a llwyau o bren dreinen yn gorwedd wrth ochrau'r picynau.

Neidiodd Owen y gwas at y crochan, gan ddechreu llenwi ei lestr ag uwd; ond dywedodd Rhisiart Prisiart, yr hwn oedd yn eistedd wrth ben y bwrdd "Yn enw pob rheswm, Owen, pryd y dysgi di fanners, dwad? Yr wyt wedi bod yma er's dros dri mis, ac yn fy myw fedraf fi ddim cael gin ti aros heb neidio at y bwyd cyn i rywun ofyn bendith. Tydw i ddim yn broffeswr, ond mae gin i barch i grefydd. a leiciwn i ddim byta pryd o fwyd heb un ai gofyn bendith fy hun neu i rywun arall neud. Huw, gofyn di fendith, was."

Gwnaeth Huw Huws hyny yn syml a dirodres. "Yrwan, lads," ebe'r hen hwsmon—"bytwch eich gwala."

"Yn wir, Rhisiart," ebe Owen, "rhaid i chi fadda i mi—mi fum yn gweini mor hir mewn llefydd nad oes byth weddio, na gofyn bendith, na darllen ynddyn nhw, nes y mae'n anodd i mi gofio'ch dull chi yma. Ond, wir, y mae lle fel hyn yn ddigon a gneud i ddyn dyngu treio peidio pechu na bod yn wyllt ond hyny. A dyma fwyd iawn ydan ni'n gael!"

"Ie, nid fel uwd blawd ceirch teneu, gwael, hefo llaeth enwyn a hwnw ddim gwell na gladwr, fel fum i'n gael am ddau dymor yn Tanymynydd," ebe Sion, y gwas arall, gan daflu llwyaid o uwd i lawr i'w felin rhwng pob tamaid.

"Ddoi di'n ditotal, Sion?" gofynodd Owen.

"Dof fi, myn sebon."

"Dyna ben."

"Hwre!" gwaeddodd Rhisiart Prisiart, a'i safn yn haner llawn o fwyd.

Wedi swpera, aeth yn llawenydd mawr yn y lle oherwydd penderfyniad Sion ac Owen i ddyfod yn ddirwestwyr. Aeth y gweision a'r morwynion i adrodd chwedlau gwledig, ac ddatganu caniadau difyr, hyd nes, am chwarter i ddeg, y