Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeth Mr. Owen, ei brïod, a'i unig ferch, i'r gegin, a Bibl Mawr Peter Williams dan ei gesail, i gadw dyledswydd cyn i bawb fyned i orphwys. Llawenychodd yr amaethwr yn fawr pan glywodd am benderfyniad Owen a Sion. Wedi darllen pennod, rhoddodd yr hen benill hwnw i ganu

"O estyn eto i barhau Dy drugareddau tirion."

"Yrwan, Huw, dosi weddi, was," ebe'r amaethwr. Gweddioddd ein harwr yn daerach nag arfer y noson hono, heb anghofio ymbil ar ran y ddau lanc

PENNOD XII.

"Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell."—SOLOMON.

Bore dranoeth, synwyd Huw wrth gael ei hysbysu fod llythyr yn y ty, wedi ei gyfeirio iddo ef, o'r America. Aeth i mewn i'w geisio. Gwelodd fod sel ddu arno, a'i fod wedi trafaelio o bost i bost yn Mon, gan nad oedd wedi ei gyfeirio i'r Plas Uchaf, eithr i gartref cyntefig William Huws.

Agorodd Huw y llythyr yn frysiog, ac yr oedd ei law fawr, gyrniog, galed, yn crynu wrth dori'r sel, canys yr oedd yn beth mor annghyffredin cael llythyr o'r America ac yr oedd y sel ddu yn peri i'r llanc deimlo pryder anesponiadwy. Darllenodd Huw'r llythyr, a gwelodd Mr. Owen, yr hwn oedd yn yr ystafell, fod y cynwysiad, gan nad beth oedd, yn cyffroi Huw yn angerddol. Gofynodd iddo-"Yr wyf yn gobeithio nad oes dim newydd drwg, Huw? Os nad oes rhywbeth rhy breifat yn y llythyr, a gaf fi ofyn beth yw'r newydd?"

Yr oedd Huw yn rhy gyffroedig i ateb, ond efe a estynodd y llythyr i'w feistr, yr hwn hefyd a ddangosodd arwyddion o syndod wrth ddarllen yr hyn a ganlyn :

———"America,———

"Huw Huws,—Fy anwyl Fab Bedydd,

Y mae'n sicr mai prin yr wyt ti yn cofio dim am danaf. Y mae blynyddoedd lawer er pan adewais wlad fy ngenedigaeth; nid oeddit ti ond hogyn bach y pryd hwnw, ac, os wyt ti wedi cael bywyd ac iechyd, y mae'n rhaid dy fod yn ddyn mawr erbyn hyn. Yr oedd genyf fi feddwl uchel am danat hyd yn nod pan oeddit yn blentyn, a phenderfynais,