Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HUW HUWS:

NEU

Y LLAFURWR CYMREIG.


PENNOD I.

"Er mwyn yr Amser Gynt, fy ffrind,
Yr hen amser gynt."

—ALUN.

MEWN Cwm hyfryd, hardd, ond annghysbell, yn "Mon Mam Cymru" wrth droed Mynydd Bodafon, yr oedd ty bychan, destlus, wedi ei wyngalchu, fel yn nythu yn ngheseiliau poplyswydd talion, a'i dalcen yn cael ei arlandu âg eiddew gwyrdd, a gardd fechan, ddel, o flaen ei ddrws.

Y ty bach, twt, yna, oedd preswylfod "William Huws yr Hwsmon," fel y gelwid y dyn a gyfaneddai yno, gan bobl y wlad; a'i wraig, Marged—deuddyn dedwydd, boddlon, a diwyd, fel y mae y mwyafrif o bobl weithgar y wlad hon.

Ychydig yn uwch i fyny yn y cwm, gallesid canfod yr hen bont bren, gridwst, afrosgo, a thrwsgl, yr hon oedd wedi gwrthsefyll eira a dadmer, gwynt a llifogydd, llawer gauaf ystormus;—yr hen felin ddwfr, hefo'i chlit clat, clit clat, gwastadol a dibaid,—y llyn yn ei hymyl, gyda'i hwyaid dofion, ar yr hwn yr arferai y plant nofio eu "llongau bach," hefo'u hwyliau o blyf gwyddau. Dyddiau dedwyddion "yr hen Amser Gynt," y rhai na ddychwelant byth mwy! Ond fe fy'n adgof i lynu'n gariadus wrth hen olygfeydd fel hyn, a phortreadu i'r meddwl yr amser dedwydd pan oeddym blant, yn chwareu o gylch llanerchau bro ein genedigaeth, y maesydd lle'r arferem hel nythod adar, y wig lle'r heliem gnau, y gerddi lle byddem yn erlid y gloywod byw, neu'r gelltydd lle'r arferem ysbeilio nyth y cacwn, dan berygl cael ambell golyn. Ond y mae hyny oll drosodd bellach; ac wrth gwrdd âg ambell un, ar ein pererindod