Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Huws wrth ddynesu at Lynlleifiad, yn yr hen "Amlwch Packet," gyda chyfran dda o'r tri chan' punt yn ei feddiant, yr hyn y bwriadai eu defnyddio i bwrcasu dillad newyddion, ac ymborth amheuthyn, i'w rieni a'i dair chwaer, ac i dalu am eu cludiad yn ol, gydag ef, i hen Gymru hoff.

Yr oedd tuag unarddeg o'r gloch y bore, pan gyrhaeddodd y llong borthladd Llynlleifiad. Prysurodd Huw i lanio. Dododd y fasged, yr hon a ddygodd gydag ef o Gymru, yn llawn danteithion gwledig, ar ei ysgwydd gref, a chychwynodd yn gyflym i chwilio am anedd ei rieni. Ni fu'n hir heb gael hyd i'r heol; ac ar ol tipyn o holi, cafodd hyd i'r ty hefyd. Ond wrth sylwi ar fudreddi a chulni'r heol, a golwg truenus y tai a'r trigolion, suddodd ei galon yn ei fynwes, a dywedodd rhyngddo ag ef ei hun—"Ai tybed mai lle fel hyn ydyw cartref fy rhai anwyl! A ydynt wedi eu darostwng gymaint ag i orfod byw yn y lle aflan yma !"

Aeth i mewn i'r ty. Yr oedd golwg druenus ar yr ystafell—dim cadeiriau, dim byrddau, dim tân—un ystôl fechan ar yr aelwyd, a dau bentwr o briddfeini wedi eu dodi ar eu gilydd, fel pe buasai Sibsiwn wedi bod yno yn trefnu lle i eistedd. Safodd Huw am fynud, heb wybod beth i'w wneud, ac yn ofni ei fod wedi cael ei gamarwain. Gollyngodd ochenaid drom, ac ar hyny, clywodd lais gwan, o'r ystafell arall, yn dywedyd

"Pwy sydd yna?"

Aeth Huw i'r ystafell hono, Gwelodd hen gist ffawydd ag yr oedd ef yn ei hadnabod er's lawer blwyddyn, a phentwr o hen ddillad arni.

Safodd fel un wedi ei syfrdanu. Yna dododd y fasged, oedd ar ei ysgwydd, ar y llawr yn ddisymwth, wrth deimlo rhywbeth tebyg i lewyg yn dyfod drosto, oherwydd efe a ganfyddodd wyneb gwelw, fel rhithlun o angeu, yn cyfodi yn araf o ganol y pentwr dillad oedd ar y gist ffawydd; a dau lygad glas, mawr, gloyw, treiddgraff, yn syllu arno gyda thremiad dwys a synedig; a'r foment nesaf clywodd ei enw yn cael ei seinio. Dyrchafodd waedd wyllt o lawenydd, a neidiodd at y gwrthddrych nychedig oedd yn estyn breichiau meinion ato. Yr oedd, mewn amrantiad, ar ei liniau wrth ochr gwely gwael ei chwaer hynaf, a hithau yn gwasgu ei breichiau esgyrniog ac egwan am ei wddf ef.

"Fy chwaer!" ebe Huw— "fy anwyl chwaer!--fy anwyl chwaer Mari! O! fy anwylaf Fari!—a gefais I hyd i ti o'r diwedd? Siarad a dy frawd, fy anwylaf Fari!"

Ond nis gallai gael ganddi ddweyd gair—dim ond dal wasgu ei breichiau am ei wddf gyda nerth mwy nag a allesid ddysgwyl gan freichiau mor feinion a churedig. Gwyrodd