Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at ymyl y landing stage, ac ymdaflodd i ferw llif yr afon Mersey. Dyrchafwyd gwaedd o ddychryn ac alarwn gan y bobl; gwelwyd y corph yn ymgodi i wyneb y dwfr; neidiodd morwr ati, a chafodd afael yn ei gwallt cvn iddi suddo eilwaith; daliodd hi uwchlaw'r dwfr; aeth dynion eraill i'w gynorthwyo, gyda bad, a dygwyd y llances i'r lan. Ymwthiodd pawb, am y cryfaf, i geisio gweled y corph dideimlad, a Huw Huws yn eu plith, ond methodd a myned yn agos. Yn mhen ychydig fynudau, clywodd ryw ddyn yn gwaeddi, mewn Cymraeg croyw

"O, fy Nuw! fy Nuw!-dyma drallod newydd! Fy ngeneth gyfrgolledig I ydyw hi!—fy ail ferch!—fy Lowri!" Atebwyd llefau torcalonus y dyn, gan lef arall, groch, daranol, i'w chlywed uwchlaw pob twrf— "FY NHAD!" a gwelwyd Huw Huws yn cythru trwy'r bobl fel corwynt trwy grinwellt, a chyda chyflymdra meddwl, yr oedd y mab yn ymyl ei dad, a'r ddau yn cydgynal corphyn yr eneth anffodus Lowri!

DIWEDDGLO.

Ehedodd yspryd Mari, y noson hono, at Dduw, a'r geiriau olaf a glywyd o'i genau, oeddynt

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,
Ond fy anwyl Briod Iesu,
'Rhwn fu farw ar y Pren."


Ceisiwyd pob cymorth meddygol i Lowri; ac er iddi gael adferiad i deimladrwydd, ni fu hi byw ddim ond am ddau ddiwrnod. Nid allodd, gan ei gwendid, fynegu ond ychydig o'i hanes. Cyfaddefodd mai ei balchder a'i dirywiodd, a'i bod wedi gwerthu ei diweirdeb am wisgoedd gwychion. Yr oedd ei hangau yn arswydus, —ei chydwybod o'i mewn fel arthes wedi colli ei chenawon, a threngodd mewn dychrynfeydd annesgrifiadwy.

Aeth Huw, gyda'i rieni a'i chwaer fach, Sarah, yn ol i Gymru. Defnyddiodd ei dri chan punt i brynu y Ty Gwyn; ac yno y treuliodd William a Marged Huws weddill eu hoes; machludodd haul eu heinioes mewn tawelwch tangnefeddus. Yno hefyd y cartrefodd Huw Huws dros ystod rhelyw ei fywyd, ac yr oedd ei fuchedd yn tueddu at roddi pwysigrwydd, urddas, a pharchusrwydd ar nodweddiad

Y LLAFURWR CYMREIG.