Yr oedd William Huws yn ofalus am fyned a'i blant yn gyson i'r Ysgol Sul, ac i bob gwasanaeth Dwyfol o fewn eu cyraedd, gan ymdrechu planu egwyddorion crefyddol yn eu meddyliau ieuainc; ac ymddangosai nad oedd ei lafur yn ofer, canys ystyrid ei blant ef fel esamplau i'r ardal o ddestlusrwydd, gwyleidd—dra, a buchedd dda. Yr oedd Huw, yn enwedig, yn enill parch hen ac ieuanc, cyfoethog a thlawd, fel hogyn difrifol, syml, a diwyd gyda'i lyfrau yn yr ysgol ddyddiol a Sabbathol. Ac ar ol oriau'r ysgol ddyddiol, un o'i hoff fwynderau oedd palu a chwynu gardd fechan ei dad, a'i wobr benaf, a'r uchaf a ddymunai, ydoedd derbyn gwên cymeradwyaeth ei rieni, a chlywed ei chwiorydd bychain yn dweyd,—"Huw ni ydi'r gardener goreu yn y wlad!"
Ond yr oedd cwmwl du, trwch, wedi dechreu ymgasglu uwch ben amgylchiadau William Huws.
Pan ddaeth adref un noson, yn lled hwyr, yr oedd Marged, fel arferol ar ol gorphen ei llafur o gylch y tŷ, yn eistedd wrth ei throell, ac yn nyddu yn galonog, ac, ar yr un pryd, yn dysgu'r Salm Gyntaf i'r ddwy eneth leiaf; a Huw a Mari—y ddau hynaf—yn brysur gyda'r gwersi a roddodd yr hen Hywel Jones iddynt i'w dysgu erbyn tranoeth. Edrychodd William Huws arnynt oll gyda golygon tyner, a gallesid canfod, ond sylwi, fod pruddglwyfedd, anarferol iddo ef, yn argraffedig ar ei rudd, ac yn llechu yn nyfnder ei lygaid gloywon.
Eisteddodd y tad; a rhedodd y ddwy eneth leiaf ato, gan ddringo ar ei liniau, a'r ieuengaf yn difyru ei hun trwy dynu ei bysedd bychain meinion trwy ei gernflew. Tybiodd William Huws na welodd mo'i blant yn ymddangos haner mor garuaidd erioed o'r blaen, a gwasgai hwynt at ei fynwes, gan ollwng ochenaid wedi haner ei thagu wrth geisio diangfa o'i galon.
"Beth ydi'r matter, William?" gofynodd Marged Huws. "Wyt ti ddim yn iach? Y mae golwg sal arnat ti!"
"Na, nid wyf fi'n sal, Marged," ebe William. "Ond," efe a ychwanegodd—" 'mhlant bach i—gwell i chwi fyn'd i'ch gw'lâu: mae hi'n dechreu myn'd yn hwyr."
Dododd Marged Huws Fibl Mawr Peter Williams ar y bwrdd, fel arferol, o ba un y darllenodd William bennod; ac ar ol darllen, adroddodd pob un o'r plant ryw air, neu ryw adnod, a gofiasant o'r bennod. Canwyd un o Emynau Sant Pantycelyn, ar hen dôn Gymreig. Offrymodd William Huws weddi daer, syml, a diaddurn, mewn diolchgarwch am fendithion blaenorol, ac ymbil dwys am barhad o fendithion, a nodded, ac amddiffyn dyfodol; gyda chyflwyno ei dylwyth, gyrph [1] ac eneidiau, i ofal Tad pob trugaredd.
- ↑ aneglur yn y argraffiad, dim ond dylwytgyrac, sydd wedi printio