Tudalen:Hwian-gerddi Cymraeg 'F Ewyrth Huw.djvu/2

Gwirwyd y dudalen hon

"CAS GWR NAS CARO'R WLAD A'I MACCO"

GAIR AT BLANT CYMRU.

(Dyweyd wrth y post i'r pared glywed."—HEN DDIAREB.)

Amcan y casgliad bychan hwn o "Hwian-Gerddi" ydyw ceisio eich denu i ymarfer y Gymraeg, a' magu awydd ynoch am ddyfod i gydnabyddiaeth a'r trysorau gwerthfawr sydd yn perthyn i Lenyddiaeth Cymru; a chredwn nad oes ffordd well i gychwyn na rhoddi i chwi dameidiau difyrus, ond diniwed. Y mae gan bob cenedl arall lawer o rigymau cyffelyb wedi eu cyhoeddi; paham, gan hyny, yr amddifedir Plant Cymru o'r hyn sydd yn rhoddi pleser iddynt?

Mae un peth yn sicr, os na chewch rai yn y Gymraeg, fe fynwch rai o rywle; a beth mor naturiol ag i chwi droi at y rhai Saesneg? yr hyn a gwyd ynoch hoffder at yr iaith sydd yn darparu gogyfer a'ch chwaeth plentynaidd, ac felly yr esgeuluswch y Gymraeg, gan nad oes dim pleser i'w gael wrth ei dysgu; ond gobeithiwn y gwna y llyfryn hwn ddangos i chwi fod yr hen Gymraeg yn meddu darnau lawn mor ddifyrus i blant ag a geir mewn unrhyw iaith.

Os rhoddwch groesaw iddo, cewch ychwaneg yn fuan. Wrth ddysgu y Cerddi i "Gymru Fydd," daw i gof eich rhieni neu eich cyfeillion lawer adgof felus am "Gymru Fu"

Cyflwynir ef i chwi gyda'r gobaith y bydd yn gymhorth i enyn ynoch gariad at EICH GWLAD, EICH IAITH, A'CH CENEDL, gan

"F'EWYRTH HUW."

NODIAD.—Gan fod nifer o'r Cerddi hyn wedi eu hysgrifenu i'r casgliad hwn, a rhai o honynt wedi eu cymeryd o Weithiau CEIRIOG, nis gall eraill eu cyhoeddi heb ganiatad.