Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

dan Owain Cyfeiliawg, a meibion Madoc ab Meredydd; gwyr y berfeddwlad rhwng Gwy a Hafren, dan meibion Madoc ap Idnerth. Gwersyllodd y byddinoedd unedig hyn gerllaw Castell Crogen, a dechreuasant ffurfio amddiffynfa gadarn â'i henw Caer Drewyn, o fewn saith milldir i wersyll y Normaniaid, yn agos i Gastell y Waun. Ar ol hir wylied eu gilydd, ac i luaws o fân ysgarmesoedd gymeryd lle, gorthrechwyd byddinoedd y brenin uchelffroen mor dost, fel y bu raid iddo encilio ar ffrwst am nodded i fynydd Berwyn. Ymddygodd y brenin yn greulon dros ben at y rhai a ddaethant i'w afael, gan yr addefa Hollinshed, ei fawrygwr, ddarfod iddo dynu llygaid yr hoglanciau ieuainc, hollti eu trwynau, a llenwi clustiau amryw foneddigesau. Yr un yw rhyfel yn mhob oes, ac o dan ei ddylanwad gwneir y creulon yn saith creulonach. Mae braidd yn sicr mai y fuddugoliaeth hon yw testun cân Owain Cyfeiliog, yr hon a geir yn y Myvyrian Archæology, tudal. 140, dan yr enw "Hirlas Einir;" a mawr y ganmoliaeth a rydd yr hen fardd i Fugelydd Hafren, balch eu clywed-y ddau lew, sef dau fab Ynyr, cenawon Goronwy, &c.

Yr oedd y lle a elwir Caer Drewyn yn cael ei amddiffyn gan fur cadarn, olion yr hwn sydd eto i'w weled, yn gynwysedig o geryg rhyddion wedi eu gosod yn nghyd, yn rhyw dair llath o led, ac yn tynu at filldir o amgylchedd. Defnyddid y Gaer hefyd gan y dewr Owain Glyndwr. Pa ryfedd hyny, gan mai rhyw dair milldir oddiyma, ar y ffordd i Langollen, ond yn mhlwyf Corwen, y ceir olion un o ben balasau Owain Glyndwr, yn y fan a elwir yn awr Carog,—lle, fel y canodd Iolo Goch am ei balas arall Sycharth, y dangosid mwyneidd-dra nid bychan i'r beirdd a'r teithwyr a gyrchent yno—

"Anodd yn fynych yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb;
Ni bydd eisiau budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched byth yn Sycharth.
Llys barwn, le syberwyd,
Lle daw beirdd am le da byd,"

Mae traddodiad yn yr ardal fod hen fwrdd cegin mawr a arferid gan Owain Glyndwr ar gael eto yn ffermdy Carog. Bu amryw o enwogion y Gymdeithas Hynafiaethol Brydeinig yn ei weled ar