Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/23

Gwirwyd y dudalen hon

Goch, 1554: J. Reynold, 1558; J. Vaughan, 1573; J. ap Harri, 1582; T. Jones, B.D., 1594; O. Vaughan, 1595; P. Brereton, 1598; J. Head, 1604; T. Roberts, 1611; R. Lewis, 1635; K. Pearks, 1645; E. Evans, 1653; H. Hughes, 1660; H. Jones, 1666; H. Parry, 1704; H. Foulkes, A.B., 1709; E. Wynne, A.M., 1731; S. Mytton, 1731; R. Anwyl, 1776; J. Lloyd, 1799; J. Wynne, M.A., 1826; T. Williams, 1871. (Y mae yn syndod mewn plwyf gwledig fel Llandrillo gyfarfod cynifer o ddynion yn gwisgo enwau Seisnig wedi bod yn gweini ar angen ysbrydol y trigolion. Hyderwn i'r efengyl gael cyfiawnder oddiar eu llaw, os oedd Gramadeg Cymraeg weithiau yn dyoddef cam).

LLANDDERFEL

Nid yw yr awdurdodau yn cytuno pa le i osod Llandderfel. Dywed y Parch. O. Jones fod rhan o hono yn Nghantref Penllyn, a rhan yn Nghantref Edeyrnion; tra y rhestrir ef yn y Myvyrian Archeology, a chan awdurdodau eraill, yn gwbl yn Mhenllyn. Fodd bynag, ni ddigia Penllyn wrthym am wneud rhai sylwadau ar y lle, i aros i rywun yn y rhanbarth hwnw gymeryd y mater mewn llaw, a'i drafod yn helaethach. Y mae pentref Llandderfel yn sefyll ryw 4 milldir o dref y Bala, a chynwysa y plwyf 7,794 o erwau, gyda phoblogaeth o 968, yn ol deiliadeb 1861. Gwneir ef i fyny o'r chwe' trefddegwm canlynol:-Y Llan, Caerceiliog, Cynlas, Doldrewyn, Nantffrayen, a Selwrn; a dywed Ioan Pedr—"Ystyrir fod Llaethgwm hefyd yn drefddegwm, ond ni chyfrifir hi ar wahan yn y trethiad." (Traethodydd, Ion,, 1877). Yn y rhifyn uchod o'r cyhoeddiad rhagorol a nodwyd ceir yr ysgrif gyntaf o gyfres a fwriadai y Proffeswr Peter ysgrifenu. Ysgrifenai dan y penawd, "Hynafiaethau Penllyn," a chynwysa yr ysgrif gyntaf nodiadau cyffredinol ar y sir, a sylwadau uniongyrchol a manwl ar blwyf Llanuwchllyn. Bwriadai yn y rhifynau canlynol ddilyn yn mlaen gyda'r plwyfau eraill, ond gyda bod y Tradhodydd hwnw allan o'r wasg, yr oedd y

"Cyfaill llon, ffyddlon, di ffug,
Mor bur a gemau'r barug,"

ys dywedai Elis Wyn o Wyrfai, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Colled genedlaethol oedd ei fyned i'w argel wely.