Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/28

Gwirwyd y dudalen hon

J. Kyffin, 1623; R. Foulkes, A.M., 1629; J. Foulkes, 1662; R. Williams, 1677; D. Wynne, 1689; W. Hughes, B.A., 1729; D. Davies, B.A., 1753; W. Jones, 1760; W. Rowlands, 1799; R. Prichard, 180o; W. Lewis, M.A., 1847; E. Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), 1866; E. Evans, 1872.

BETTWS GWERFIL GOCH

Mae llawer o fanau yn Nghymru yn dwyn yr enw Bettws, megys Bettws yn nghwmwd Iscenin, yn agos i Landeilo Fawr; Bettws yn Rhos, ger Abergele; Bettws yn nghwmwd Uwch-hanes, yn nghantref Cydewain ar làn Hafren; Bettws Tir Iarll, yn Morganwg; Bettws Bledrws, yn nghwmwd Caewedros; Bettws Ieuan, yn nghwmwd Iscoed, yn Ngheredigion; Bettws Claerwy, yn nghwmiwd Penwyllt; Bettws Diserth, yn nghwmwd Llech Ddyfno, yn Maesyfed; Bettws Garmon; Bettws y Coed, yn Nant Conwy; a Bettws Gwerfil Goch. Am ystyr yr enw dywed Cynddelw fel hyn:"Myn rhai mai gair Cymraeg yw Bettws, yn golygu lle canolog rhwng mynydd a dyffryn; ond nis gallwn gael gwreiddyn Cymraeg iddo. Tebycach mai Eglwysair o'r canol oesoedd ydyw. Yr oedd gan y Pabyddion Lan, Capel, a Bettws. Y Llan oedd y prif grefydd-dy. Cangen ddibynol ar y Llan oedd y Capel. Chapel of ease—capel diogi, capel anwes. Nid yw yr athraw Rees, yn ei Welsh Saints, yn gwneud fawr o wahaniaeth rhwng Capel a Bettws. Mae tarddiad y gair yn ansicr ganddo ef, ond awgryma mai Bead House yw ei dadogair. Eraill a'i tarddant o Abbot House—ty Abad. Beads yw gleinian, neu baderan y Pabyddion; a thebygol mai lle i fyned i gyfrif eu paderau oedd y Bettws, yn yr hen amser, neu fan i droi ar eu teithiau wrth fyned ar bererindod o'r naill fan i'r llall," (Greal, Ebrill, 1869.)

Saif pentref y Bettws ryw 5 milldir o Gorwen, yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, Plwyf lled fynyddig yw y plwyf hwn ar y cyfan, yn cynwys ond rhyw 258 o drigolion. Ond cynwysa rai golygfeydd prydferth dros ben. Yn Bottegir, ffermdy yn yr ardal, y preswyliai yr enwog Filwriad Salusbury, yr hwn a amddiffyn. odd Gastell Dinbych gyda dewrder nodedig dros bedair wythnos ar ddeg.

Y mae yr Eglwys wedi ei chysegru i Mair, a chynwysai gynt