Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/30

Gwirwyd y dudalen hon

wlad oddiamgylch. Gellid cyfeirio at amryw o deuluoedd eraill o gryn fri yina a thraw, ond mae agwedd cymdeithas yn newid gyda threigliad amser, ac iselwyr un oes yn cael eu haner addoli gan oes arall. Gwna ystormydd gauaf wawd o hen balasau, a gellir dweyd am lawer lle-

Drain ac ysgall mall a'u medd,
Mieri lle bu mawredd.

Ond teilynga cŷff y Salusbriaid o Rug fwy o sylw na nodiad wrth fyned heibio, yn enwedig pan gofiom fod William Salusbury o'r Cae Du, Llansanan, y cyfieithydd hyglod, yn dwyn perthynas â hwy.

Yr oedd John Salusbury o Rug yn un o'r boneddigion a awdurdodid yn "llythyr cynwys" y Frenhines Elizabeth wrth alw Eisteddfod Caerwys, yn 1567, i ddarostwng clerfeirdd segur, diawen, a diwaith, ac i ddyrchafu y gelfyddyd i urddas teilwng.

Beth ellir wneud yn well na gadael i "Garmon" y Gwyliedydd, sef y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain), lefaru ar hanes y teulu hwn? Yr oedd Gwallter yn arwyddfardd galluog, yn llenor medrus, ac yn abl i beri i iaith y Cymro fyned yn fyw o flodau dan ei ddwylaw. Fel hyn y dywed:—

"Yn ol deongliad dameg fflangell y Philistiaid,—'Allan o'r bwytäwr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felysdra;' felly, oddiar wraidd y Saeson cleddyfrudd, a'r Normaniaid saeth-anelawg, y tarddodd trwydd cnydfawr, toreithiog o fendithion tymorol ac ysbrydawl, i Gymru dlawd a gorthrymedig. Y Salsbriaid oeddynt o áach Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r ynys hon, yn y fl. 1066. Yn ol llyfrau yr Arwyddfeirdd, mab i'r Salsbri cyntaf yn Nyffryn Clwyd, oedd Ioan Salsbri, a fu farw yn y fl. 1289; a Mr. Peter Elis a ddywed mai mab i hwn oedd Syr Harri Ddu, enw tra adnabyddus i hen delynorion Gwynedd: ond Reinallt a ddywed mai y pedwerydd Salsbri yn Nghymru oedd yr Harri Ddu uchod, ac iddo briodi Nest, wyres i Ithel Fychan, a marw yn y fl. 1289. Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu âg etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Tuberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau. Yn Marwnad Syr John Salsbri, hynaf, o Leweni, dywed William Lleyn megys wrth y marw—