Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/32

Gwirwyd y dudalen hon

Nwynedd ond yn Ngwent." (Gwel y Gwyliedydd am Mehefin, 1826; hefyd Traethodau Llenyddol Dr. Edwards.)

Y mae y bargyfreithiwr hyawdl E. G. Salusbury, Ysw., gynt A.S. dros Gaerlleon, yn hawlio ei ddisgyniad o'r llinach enwog.

Bellach sylwir yn fras ar hanes amrywiol bersonau a godasant i hynodrwydd yn y cwmwd:—

ELIS CADWALADR.—Preswyliai ef yn Llandrillo, lle y blodeuai fel bardd o 1707 i 1740. Efe oedd y prif fuddugwr yn Eisteddfod y Bala dydd Llun y Sulgwyn, 1738. Y barnwr oedd y Parch. Edward Wynne, Ficer, Gwyddelwern, yr hwn a anerchodd yr holl gynulleidfa mewn barddoniaeth ganmoliaethol, gan ddweyd am Elis Cadwaladr—

"Goreu i gyd, gwr y gadair."

Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion, fel y prawf yr englynion a gyfansoddodd i'w gosod ar fedd Huw Morris o Bontymeibion. Y mae ei gân a elwir "Clod i ferch," yn dangos y gwyddai fwy na llawer o'i gydoeswyr am enwau clasurol. Dyma englyn o'i waith i "Gywergorn Telyn,"

"Tair pibell i gymell y gân—awr felus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tanau mân
Tlws eurgordd at lais organ."


PARCH. R. B. CLOUGH, M.A.[1], oedd Ficer Corwen. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 ml. oed. Yr oedd Mr. Clough wedi astudio y mesurau caethion, ac yn gallu canu yn lled gywrain ynddynt.

"Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd;
Modrwch glymu ymadrawdd,
Goleu teg o gload hawdd,"

meddai R. Davies, Nantglyn, wrtho. Dyma ddau englyn o'i waith ar farwolaeth y Parch. D. Richards (Dewi Silin), Periglor Llansilin-

"Dybenwyd, claddwyd mewn cledd—ein cyfaill,
Ow! cofiwn y tostedd;
Cri colli ein câr callwedd,
Dydd blin dwyn Silin o'i sedd.

"Dyn ardduag o ran urddau—un parchus
Yn perchen iach foesau;
Heb serthedd dygasedd gau
Anfoesawl o'i wefusau."


  1. Roger Butler Clough