Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/50

Gwirwyd y dudalen hon

llawer o honynt wedi eu hachub, yn ol pob tebygolrwydd, rhag dinystr anocheladwy; a phan gofier fod difaterwch cywilyddus yn ffynu yn gyffredinol gyda golwg ar lenyddiaeth Gymreig, fel yr oedd ad—daliad yn anobeithiol,—y mae yn aumhosibl prisio y weithred hon o eiddo Myfyr yn rhy uchel. Y mae y gwaith gwerthfawr hwn wedi cael ei ailargraffu gan Mr. Gee, Dinbych. Heblaw yr ysgrifau a gyhoeddodd efe yn y Myvyrian, cadwodd y gweddill o honynt yn ofalus mewn ysgriflyfrau, a chwanegodd atynt gopiau llawysgrifol llenyddiaeth y genedl o 1300, lle y terfyna yr Archæology, hyd oes y Frenhines Elizabeth. Dywedir y costiodd casglu, ysgrifenu, a dosbarthu y rhai hyn iddo dros dair mil o bunau. Gadawodd ef hwynt i'w wraig, gan yr hon y pwrcaswyd hwynt i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, lle y maent yn awr, yn cynwys 47 cyfrol o brydyddiaeth, yn 16,000 o dudalenau, heblaw tua 2,000 o englynion. Mae yr un casgliad hefyd yn cynwys 53 cyfrol o ryddiaeth Cymreig, mewn tua 75,300 o dudalenau, yn cynwys llawer o ysgrifeniadau Cymreig ar amrywiol bynciau. Yr ysgrifau anmhrisiadwy hyn, oddigerth ychydig o honynt a gyhoeddwyd yn y Brython, Cymru Fu, &c., a orweddant yn domen farw a diles yn y gywreinfa genedlaethol. Yn 1805 efe a ddechreuodd gyhoeddi cylchgrawn Cymreig yn Llundain o'r enw y Greal, yn cynwys lluaws o hen ysgrifau Cymreig prinion a dyddorol, yn nghydag erthyglau gwreiddiol; ond ni chyhoeddwyd ond un gyfrol o hono, ac y mae hòno yn an. hawdd ei chael bellach. Yr oedd Myfyr hefyd yn meddu llawer Rhydd golygydd y rinweddau personol tra chanmoladwy. Cambro Briton un esiampl nodedig o hyn. Ychydig o flynyddau ar ol sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion, tynodd awdwr traethawd Cymreig enwog, i'r hwn y dyfarnwyd un o'r gwobrau, mewn canlyniad i hyny, sylw ei sylfaenydd haelfrydig. Y canlyniad angenrheidiol i hyny oedd, i ohebiaeth ddechreu rhyngddynt, yn ystod yr hon y cymhellodd ein Mecenas Cymr ei gyfa newydd i fynu y budd o addysg athrofaol i'w dalentau, gan ddefnyddio yn ei lythyr ar yr achlysur y geiriau nodedig hyn:—

"Mi ddygaf fi eich holl draul. Tynwch arnaf fi unrhyw symiau o arian a ddichon fod yn angenrheidiol i chwi tra yn yr athrofa, Ac amod yr ymrwymiad ydyw hyn: os dygwydd i mi trwy ryw anffawd mewn masnach fyned yn dlawd, ac i chwithau fod mewn