Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/54

Gwirwyd y dudalen hon

mae amrywiol farnau yn ffynu. Ymddangosodd dau lythyr dyddorol ar y mater yn y Bygones, perthynol i'r Oswestry Advertizer, yn ddiweddar, y rhai a ddodwn i mewn yma, gan ddefnyddio y cyfieithiad a ymddangosodd yn ngholofn "Cymru Fu" yn y. Genedl Gymreig. Yr ysgrifenwyr ydynt y Canon Williams, awdwr yr Eminent Welshmen, a'r Parch, R. Jones, Rotherhithe, golygydd gwaith Goronwy Owain:—

"DYFRDWY (Dee).—Mae golygydd Y Cymrodor, tudal. 199, yn amheu y tarddiad o enw yr afon hon, yn y Gossiping Guide to Wales, o 'Dwfr du,' ac yn hòni yn awdurdodol ei fod yn tarddu o dwfr, a dwy neu dwyfol. Megys yr wyf yn meddwl mai myfi a gynygiodd y tarddiad cyntaf, felly yr wyf eto yn myntumio ei fod yn gywir, a rhoddaf fy rhesymau am dano. Nis gallaf dd'od o hyd i dwy (dwyfol) mewn unrhyw eiriadur, ac y mae pob geiriadur o'r iaith Gymraeg genyf. Y rhai penaf ydynt Salesbury, Dr. Davies, Edward Llwyd, a Dr. Owen Pughe. Nid ydynt hwy yn dweyd dim mai 'dwyfol' yw 'dwy,' er fod Dr. O. Pughe yn rhoddi 'Dyfrdwy, y dwfr dwyfol,' yr hyn nid yw yn ddim ond haeriad, ac oddiyma y cafodd Y Cymrodor ei wybodaeth. Nid oes, pa fodd bynag, ddim awdurdod dros y tarddiad hwn. Gelwir yr afon bob amser gan breswylwyr presenol ei glànau yn 'Dwrdu,' neu y Dwfr du, ac enw tra dysgrifiadol o honi ydyw. Felly y gelwid hi yn amser ein gwron Cymreig, yr hwn a ysgrifenai ei enw Owen de Glendourdy. Yr Hen Gymraeg am ddwfr ydoedd dubr, a dobr, a'r Hen Wyddelaeg oedd dobur. Yna trwy feddaliad rheolaidd b i bh, dobhr yn Gymraeg a dobhar yn y Wyddelaeg; yn awr, ynganid bh fel v, oddiwrth yr hyn y daeth dwfr yn Gymraeg, a thrwy gwtogiad dour neu dur; a dur yn y Wyddelaeg. Dobhra, dur, yn Gaelaeg, a dour yn y Fanawaeg. Hen ffurf du, yn y Gymraeg a'r Wyddelaeg, oedd dub, a dyna y ffurf a arferai yr Hen Frutaniaid pan oresgynasant yr Iwerddon. Cedwir y ffurf yn ei burdeb yn Dublin, sef Dulyn yn ol y Cymraeg presenol. Aeth y dub Gymreig a Gwyddelig drwy y treigliad arferol i dubh, a daeth y llythyren olaf, yn dwyn sain , yn aneglur, megys y gwelir yn tre am trev, plwy am plwyv, a lluaws o engreifftiau eraill, a'r diwedd fu ei gadael allan yn hollol. Mae afon fawr yn yr Iwerddon a elwir Blackwater neu Dwr—du. Mae dwy afon yn Ysgotland a elwir