Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/9

Gwirwyd y dudalen hon

ac wedi i'r gelyn ddarfod ei saethau, ymosodwyd arno gan Owain. Bu brwydrau gwaedlyd rhwng Owain Glyndwr ac Arglwydd Grey o Ruthyn yn y parthau hyn, ond o'r diwedd gorfu i'r diweddaf dalu deng mil o farciau i'r blaenaf, a phriodi Jane ei bedwaredd ferch. Priodas ryfedd oedd hòno, ac nid oes genym ond gobeithio eu bod wedi byw yn ddedwydd hyd wahaniad angeu. Wele yn canlyn restr o Berigloriaid y plwyf o'r flwyddyn 1537 hyd yn awr:-Thomas ap Howel Vychan, 1537; Thomas ap John, 1556; David Labenton, 1560; Edward Jones, 1570; Maurice Davies, 1573; J. Ellis, 1587; R. Griffith, 1642; Thomas Jones, 1660; Edward Lloyd, 1664; Jenkin Maesmore, 1664; William Williams, 1702; James Langford, 1720; E. V. Pughe, 1771; Owen Lewis, 1781; Robert Prichard, 1798; Edward Roberts, 1799; John Hughes, 1812; J. Williams, 1835; D. Evans, 1862. Yr enwadau eraill yn y plwyf ydynt y Methodistiaid Calfinaidd, y rhai a ddechreuasant trwy gynal Ysgol Sul tua dechreu y ganrif hon. Adeiladasant gapel yn gynar yn y ganrif hon. Codasant gapel newydd hardd yn 1872. Y Bedyddwyr a ddechreuasant gynal Ysgol Sul yn llofft y Grouse. Codwyd capel yn 1832, yr hwn a helaethwyd yn 1850. Yn gysylltiedig â'r capel hwn ceir mynwent helaeth. Poblogaeth y plwyf, yn ol deiliadeb 1871, oedd 202.

CORWEN

Y mae Corwen yn un o blwyfau Edeyrnion, ac yn dref farchnad. Ystyr y gair, medd rhai, yw Côr-wen (the white choir); medd eraill, Corvaen, gan olygu careg mewn cylch oddiwrth y groes a geir yn y fynwent, yr hon oedd mewn bod, mae'n debyg, o flaen yr Eglwys. Dywed eraill mai oddiwrth Corwena, mam Beli a Bran, y deilliodd yr enw; ac eraill drachefn mai Caerowain yw y gwir enw. Dyna ddigon o ddewis i'r darllenydd, ond gwell genym ni fabwysiadu y syniad cyntaf. Pan ymosodwyd ar Ogledd Cymru gan Henri II., yn 1165, neu 1163, fel y nodir yn y Myvyrian, (gwel "Brut y Tywysogion," tudal. 712), daeth ef a'i lu i wersyllu ar fryn Berwyn, yn agos i'r dref hon. Cyfarfyddwyd ef gan fyddinoedd unedig y Cymry, sef byddin y Gogledd, dan arweiniad Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr; byddin y Deheubarth, dan orchymyn Rhys ab Gruffydd; Powys,