Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r dolydd gwyrdd-leision gydag ambell lanerch o goed yma ac acw, megys i dori ar unffurfiaeth yr olygfa. Ar wyneb y llynau adlewyrchid delw y mynyddoedd uchel, a daeth glanau y Llyfnwy, lle y teyrnasai braw ac annhrefn, yn rhodfeydd difyrus ac adloniadol. Er y cwbl, ychydig oedd nifer y trigolion, ac anaml a diaddurn oedd y tai, hyd oni ddechreuwyd agor y llech-chwarelau.— Ond pan ddaeth yr adeg yr oedd coffrau goludog y Cilgwyn i gael eu hagor, ac ymysgaroedd y mynyddoedd i gael eu chwilio, crewyd cyfnod newydd yn hanes y lle, a dechreuodd pob cangen o'i fasnach ymfywiogi. Cymylodd hyn raddau, mae'n wir, ar degwch naturiol y dyffryn. Boddwyd cynghanedd y goedwig gan swn y morthwylion, a chymylwyd dysgleirdeb yr awyrgylch gan fwg ager-beiriannau. Ond lle collodd mewn prydferthwch yr enillodd mewn cyfoeth. Ymgasglodd nifer! mawrion o deuluoedd o Fon a Lleyn, a manau ereill, yma i fyw. Adeiladwyd yma dai lluosog a golygus, addoldai eang a chyfleus, gydag ysgoldai dymunol, fel y gellir yntyried dyffryn Nantlle y dydd heddyw fel un o'r lleoedd mwyaf blodeuog a chynyddfawr yn Sir Gaernarfon, a'i ragolygon yn addawol a lwyddiannus.

Perchenogid bron yr oll o Ogledd Cymru yn yr amser y goresgynnwyd. hi gan y Rhufeiniaid, gan lwyth neillduol a elwid yr "Ordovices," neu "Gordofgion," Am y bobl hyn sylwa Camden eu bod yn wrol a phenderfynol iawn, yn preswylio rhanbarthau mynyddig, a'u bod y rhai diweddaf oll i gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid. Bu y Rhufeiniaid am yn agos i gan mlynedd, sef o'r amser y tiriodd Julius Cesar, C.C, 50, hyd amser Ostorius, yn O.C. 50, cyn llwyddo i orchfygu y bobl a breswylient y rhanbarth hwn o Ynys Brydain, alwyd ar ol hyny yn Wynedd. Ac o'r flwyddyn O.C, 449 hyd amer Iorwerth y Cyntaf, yn y flwyddyn 1282, bu y Sacsoniaid yn ymosod yn berheus cyn. llwyddo i lwyr orchfygu y Gordofigion, neu bobl Gogledd Cymru; ac nid heb arfer dichell, fel y gwyr y darllenydd yn dda, y llwyddwyd i gael ganddynt yn y diwedd osod eu gyddfau o dan yr iau Sacsonaidd.

Gelwid pobl Sir Gaernarfon yn neillduol yn "Cangi," neu "Cangiani," yn amser y goresgyniad y sir gan y llywydd Rhufeinig, Ostorius Scapula. "Yr oeddynt yn preswylio yn benaf hyd benau y moelydd a'r bryniau, mewn cytiau crynion, diaddurn, gweddillion y rhai a welir yn luosog eto hyd benau y mynyddoedd, ac aelwir yn awr yn gyffredin "Cytiau Gwyddelod," neu fel y myn rhai eu galw "Cytiau'r gwyr hela," am fod y trigolion y pryd hyny yn byw yn benaf ar helwriaeth. Gall y darllenydd weled olion nifer luosog o'r cytiau hyn wrth draed y Mynyddfawr, yn Drws-y-coed.

Efallai y dylem grybwyll nad oedd y wlad hon yn cael ei dosbarthu i siroedd a phlwyfydd, fel y mae yn bresennol, hyd ar ol uniad Cymru a Lloegr, o dan deyrnasiad Iorwerth y Cyntaf; oblegid yn y ddeddf a gyhoeddwyd yn Nghastell Rhuddlan yn ngrawys y flwyddyn 1294, dosbarthwyd Gwynedd a Deheubarth i siroedd, ac y sefydlwyd prif ynad ar bob sir, Ac am y dosbarthiad o'r sir yn blwyfydd, ni ddefnyddiwyd y drefn bresenol hyd Harri yr Wythfed, er fod rhai o'r plwyfydd yn