Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y fath gymesuredd o for awel yn nghymydogaeth Pen-y-groes a Llanllyfni, ac eto heb fod yn rhy agos i'r mor, fel y gallwn dybied fod safleoedd y pentrefydd hyn yn hynod o iach a chymhedrol. Am tua thair rhan o bedair o'r flwyddyn bydd yn chwythu o'r tueddau gorllewinol, er mai y dwyreiniol, yn enwedig yn y gauaf a'r gwanwyn, gan ei fod: yn dyfod oddiar y Wyddfa, a chreigiau yr "eira a'r eryrod," ydyw y mwyaf lym a digysgod.

"Yr ydym wedi cyfeirio amryw o weithiau at y Llyfnwy," y brif afon; yr hon sydd yn rhedeg ar hyd gwaelod y dyffryn hwn. Y mae haneswyr diweddar yn camgymeryd wrth grybwyll mai yn "Llynau Nantlle" y mae ei tharddiad, oblegid y mae yn afon gref cyn cyrhaedd y llynau, er ei bod yn derbyn llawer o adgyfngrthion tra y mae yn ymdroi ynddynt. Ystyr y gair "wy," meddir, yw dwfr neu afon, ond. nid yw Llyfnwy yn ddesgrifiadol, o'r afon yma ond mewn rhan fechan yn unig, gan fod ei threigliad, ar y cyfan, yn chwyrn a thrystfawr, ac ar wlawogydd yn ddychrynllyd. Nid yw y, Llyfnwy, megis rhai o afonydd ein gwlad, y rhai gan awydd "gweled y byd," a gymerant daith hamddenol ar hyd gwastad-diroedd, gan amgylchu bryniau wrth eu pwys; eithr yn hytrach cymer daith frysiog, ddiymaros, nes cyrhaedd: ei chartref yn mor gilfach Caernarfon, ychydig islaw Pontlyfni, Y mae hen draddodiad yn yr ardal fod yr afon hon yn yr hen amser yn llithro i ddyffryn Menai, ac mai wrth Ynys Seiriol, gerllaw Beaumaris, yr oedd yn cyrhaedd y mor, Yr oedd Arfon a Mon y pryd hyny heb eu. hysgaru, fel y gallai dyn gerdded * ar draed o Landdwyn i Glynnog Fawr heb wlychu ei draed. Nid oedd y mor y pryd hyny wedi ymweithio trwy y lle y mae culfor Abermenai yn awr, Dichon y dylid ychwenegu fod rhai yn ceisio amddiffyn y traddodiad hwn oddiar seiliau hanesyddol.