Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEIRNIADAETH

Y PARCH, OWEN JONES, LLANDUDNO

AR Y CYFANSODDIADAU AR


"HYNAFIAETHAU, COFIANNAU, A HANES PRESENNOL
NANT NANTLLE"

"Ni ddaeth ond dau gyfansoddiad I law ar y testyn tra dyddorol uchod, ond y mae yn dda genyf allu hysbysu y pwyllgor fod pob un ohonynt yn meddu gradd uchel o deilyngdod. Y mae y naill o'r cyfansoddiadau hyn wedi ei danysgrifio gan un o hil Rodri, a'r llall gân Maeldaf Hen; *** 'Y cyfansoddiad arall â ysgrifenwyd gan Maeldaf Hen, ac y mae yr awdwr hwn hefyd yn ymddangos yn benderfynol i ddeall ei destyn yn drwyadl, a'i drafod yn deg. Fel. arweiniad iddo ei hun ac i'r darllenydd ar ei ol, y mae wedi trefnu ei gyfansoddiad yn dri dosbarth ; y cyntaf yn cynnwys pedair pennod ar hynafiaethau ylle ; yr ail ddosbarth. a gynnwysa dair pennod o gofiannau cysylltiedig â'r lle ; y trydydd dosbarth a gynnwysa bedair penood ei' hanes presennol yr ardal, Am yr awdwr hwn gellir dywedyd ei fod wedi ymgynghori â phob cymhorth oedd i'w gael, a gwneyd. y defnydd goreu ohonynt; ac nid yw yn cymeryd dim yn ganiataol heb. ei chwilio yn fanol a'i bwyso yn deg. Cyferbyna ei osodiadau yn deg, a thyn y casgliadau mwyaf naturiol oddiwrthynt, Nid ydyw yn rhedeg yn fyrbwyll gydag unrhyw bwnc heb fynu cyfleusdra i syllu arno o bob cyfeiriad, Tra mae y dosbarth cyntaf o ddyddordeb cyffredinol, y mae yn cael ei gyfyngu yn deg i'r gymydogaeth neíllduol hon. Nid yw yr awdwr yn crwydro o'i ffordd pan y gwna gyfeiriadau at leoedd ereill; ac y mab yn ochelgar a chymhedrol yn ei. nodiadau ; a'i grybwylliadau am leoedd a phersonau mewn ymadroddion detholedig a synwyrol. Ymddengys yn yr ail ddosbarth fel po byddai yn dyfod yn fwy chwareus;