Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/70

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

58

nodwyd. Wrth gario baichtrwm ar hyd yr ogof Ilithrodd ei droed i bwll dwin a thywyll, ac ni allodd byth olchi ymaith y lliw du oddiwrth ei

goes. Dyma, yn ol awdurdod y traddodiad hwn, oedd dechreuad cyfoeth y Glynllifon . Yr ydym yn gadael y traddodiadau i farn y darllenydd, heb ond yn unig grybwyll mai nid Cilmin druan oedd yr unig un a ddi fwynodd ei hunan yn ei orawydd am fyned yn gyfoethog. Ac os oes addysg arall i'r chwedl cymer ef.

LLYN Y DULYN . — Ymddangosodd y chwedl ganlynol mewn rhifyn o'r 6

Brython ,' am 1859 :- " Mae llyn yn mynyddoedd Eryri a elwir Dulyn, mewn cwm erchyll, wedi ei amgylehu â chreigiau uchel peryglus, a'r llyn yn ddu dros ben, a'i bysgod sydd wrthun , a phenau mawr a chyrff bych . ain . Ni welwyd erioed arno eleirch gwylltion ( fel y byddant yn aml ar bob llyn arall yr Eryri) yn disgyn , na hwyaid, nag un math o aderyn.

Ac yn y rhyw lyn y mae sarn o geryg yn myned iddo, a phwy bynag a aiff ar y sarn pan fo hi yn des gwresog, ac ' a deif ddwfr gan wlychu'y gareg eithaf yn y sarn , a elwir yr Alawr Goch , odid na chewch wlaw cyn y nos. "

HAFODLAS. -Y tai a elwir Haf-fod -tâi a ddefnyddid ar y cyntaf yn unig yn yr haf, er cyfleusdra i'w perchenogion i edrych ar ol yr anifeil iaid , i gasglu y gwair , a gwneyd caws ac ymenyp ; ac fel y nesai at y gauaf disgynent i'r dyffrynoedd i'w cartrefi priodol. Y mae un lle o

fewn ein terfynau yn dwyn yr enw hwn, à chan ei fod yn uchel ar lethr y Cilgwyn , nid yw yn anhebyg iddo gael ei ddefnyddio ar y cyntaf i'r

amcan a enwyd. Yr oedd hen dy yr Hafodlas, yn gystal a'r hen Goed Gwyn a elwir Coedmadog yn awr, ac ychydig o dai ereill a welir hyd y llethrau hyn, wedi eu hadeiladu o dan y ddeddf orthrymus a wnaed yn

amser gwrthryfel Owain Glyndwr, sef nad oedd i un Cymro adeiladu ty uwch nag y cyffyrddai y cwplau â'r sylfaen .

Cyfeirir at y tai bychain

a'u to yn y ddaear, y rhai a welir hyd lethrau y mynyddoedd, fel yn perthyn i'r un cyfnod. Sylwer, fel engraifft, ar yr Hafodlas, lle mae Mr. D. Williams yn awr yn byw, a'r hen Goedmadog, gydag amryw

ereill. Adeiledid rhai hefyd ar leoedd gwastad yn y fath fodd’ag i ysgoi yddeddf hon . Darlunir y dull o'u cyfodi gan un ysgrifenydd fel y can lyn :- “ Chwilid am goeden yn meddu cangen yn taflu allan ar ongl

osgawl, tebyg i gwpl ty, torid y goeden ya y bon, yna plenid hi ar ei phen yn y lle y bwriedid i'r ty fod , a'r gangen gam yn taflu allan fel cwpl at le y crib : wedi y ceid digon o'r cyfryw goed plenid hwy yn yr un modd yn gyfochrog, wedi hyny adeiledid mur ceryg am danynt, a thrwy y ddyfais hon ceid tai helaeth, uchel, ac iacbusol.” Y mae y desgrifiad uchod yn cyfateb i'r dull yr oedd yr Hafodlas, lle mae Mr. John Jones yn

byw , wedi ei adeiladu, yn ol tystiolaeth Mr. Jones ei hun. Yr ydym yn cyfleu yr hanes yn y fan hon am mai awdurdod traddodiad yw y cwbl a feddwn yn eu cylch.