Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/80

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

68

yn anwrthwynebol. Dywedir i'w feistr ddigio wrtho am y ganmoliaeth hon fel na ddangosodd y fath sirioldeb tuag ato ar ol hyny.

Adeiladwyd y capel cyntaf perthynol i'r Bedyddwyr yn y flwyddyn 1790, hwnw yw capel y Ty’nlon, ac sydd yn awr yn meddiant y Bedydd wyr Albanaidd. Yn y flwyddyn 1805 dygwyddodd anffawd i'r cyfundeb hwn a fu yn atalfa ar ei gynnydd, nid yn unig yn Llanllyfni ond trwy y rhan fwyaf o Ogledd Cymru. Yr ydym yn cyfeirio at yr ymraniad Sandimanaidd, fel ei gelwir, o dan arweiniad y Parch . J.R. Jones, o Ramoth, sir Feirionydd. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn dysgedig iawn , yn hyddysg mewn amrywiol ieithoedd, yn bregethwr a duwinydd rhagorol, ac yn bleidiwr di- ildio i ryw osodiadau nad oedd ei oes na'i enwad yn aeddfed i'w derbyn. Cofleidiodd olygiadau duwinydd Albanaidd o'r enw A. Mc.Lean . Dygodd elfenau anghydfod i mewn i'r eglwysi, ac ymran iad a rhwygiadau a ddilynodd. Ymunodd y mwyafrif yn Llanllyfni & phlaid Jones o Ramoth, a chadwasant feddiant o'r capel. Y rhai a lyn ent wrth olygiadau yr hen Fedyddwyr, ar ol bod tua phum ' mlynedd heb anrhyw addoliad, a ddechreuasant gynnal cyfarfodydd mewn tai annedd yn y pentref ; ac yn y flwyddyn 1826 adeiladasant gapel bychan yn agos i'r pentref, ar dir y Felingeryg. Ail-adeiladwyd ef yn 1858, a helaethwyd rhyw gymaint arno flwyddyn ddiweddaf. Prynwyd darn helaeth o dir yn gladdfa wrth y capel,' lle mae llawer o gyfeillion ac aelodau o'r eglwys wedi eu claddu. Mae yr eglwys hon, o'dan ofal y Parch. R. Jones, yncynnwys tua 70 o aelodau, a'r Ysgol Sabbothol rywbeth yn gyfartal. Dwy flynedd neu dair yn ol dechreuodd yr Annibynwyr achos yn Llanllyfi; gan fod y Bedyddwyr Albanaidd wedi rhoddi i fyny gynnal moddion crefyddol yn Ty’nlon , benthyciwyd ef gan yr Annibynwyr , y rhai eleni a agorasant addoldy prydferth o'r eiddynt eu hunain. Nid oes eto weinidog sefydlog ar yr eglwys hon , ond y mae mewn cysylltiad â Gosen, Rhosynenan, yn ffurfio taith Sabbothol. Rhifa yr aelodau tua 35, ac y mae yma Ysgol Sabbothol lewyrchus.

CLYNNOG . – Mae Clynnog a'r amgylchoedd yn hen wersyllfa i'r Method istiaid. Oblegid adeiladwyd y capel cyntaf ar dirPryscyni-isaf, a elwid ar ol hyny y Capel Uchaf, yn y flwyddyn 1760, a dyma'r cyntaf ond un ( y cyntaf oll,, medd awdwr Drych yr Amseroeddy) a gyfodwyd gan y Methodistiaid yn sir Gaernarfon . Pregethid cyn hyn yn y Berth Ddu

Bach, yr hwn a osodasid gan Hugh Evans, Uchelwr, i grefyddwr o'r enw Dafydd Prisiart Dafydd. Gan ei fod yn cael caniatad y perchenog yr oedd yr achos yn cael noddfa yn nhy Dafydd Prisiart Dafydd pan oedd yn cael ei erlid bron yn wastadol mewn manau ereill. Rhydd awdwr Hanes Methodistiaeth ' yr hanes dyddorol a ganlyn am y lle hwn : “Yr oedd Hugh Evans, er ei dynerwch at 7 Methodistiaid , yn ymhoffi yn fawr mewn canu a dawnsio , a phob difyrwch crawdol o'r fath.' Yr edd ynberchen crwth neu ffidil, ac yn chwareuydd campus arni, ac ato ef yrymdyrai lluaws o'i gymydogion diofal yn fynych ar ddechreunos i .

ymddifyru mewn dawns a phleser.: Dygwyddodd fod pregeth yn y Berth Ddu Bach ar ryw noswaith, pryd y penderfynodd y cwmni llawen hyn ,. am y tro, roi heibio eu difyrwch a myned i wrandoy bregeth . Gwelodd.