chwech ugen milldir o dir gwastad i'r llygad rhwng Alecsandria a Cairo, a rhedasom y pellder yna, neu rhedodd y trên a ni, mewn teirawr, yn gwneud cyfartaledd o ddeugen milldir yr awr. Pan gofiwch nad yw'r peiriant na'r peirianwyr i fyny y'mhopeth ag eiddo'n gwlad ni, chwi gydnabyddwch ini redeg yr yrfa'n òd o ebrwydd. Mi dybia' fod y daith hon yn werth penod, ac felly cychwynwn yn ddiymdroi.
Codir y tocyn o'r tu allan i'r orsaf: ni cheir mynediad i mewn hyd y'nod i'r ystafell aros, heb sôn am y platfform, heh docyn teithio. Hyny yw, at wasaneth teithwyr, a theithwyr yn unig, mae'r orsaf yn Alecsandria. Cyflwynaf y wers i awdurdode rheilffyrdd y wlad hon. Nid yw Cairo cystal. Mae tri dosbarth yn perthyn i drên yr Aifft fel trên Lloegr, gyda hyn o wahanieth,—nid yw'r trydydd i'w gael gyda'r cyntaf a'r ail. Ymffurfia hwnw'n drên ar ei hen ei hun. Ce's gip arno pan yn aros yn un o'r gorsafe, a thebygwn ef yn fy meddwl i drycie dâ'r T. V. R. ugen mlynedd yn ol! Es i fewn i gerbyd o'r ail ddosbarth. Mae tri neu bedwar o'r rhein mor agos gysylltiedig â'u gilydd, fel y gellwch gerdded yn gysurus o un pen i'r naill i'r pen arall i'r llall. Mae llwybr i'w gael o bwrpas i'r perwyl. Rhwng pob cerbyd mae platfform isel, i fyny'r hwn yr ewch wrth fynd i fewn, ac ar yr hwn y gellwch sefyll, os dewiswch, ac os na thry eich pen yn Brotestant, c'yd ag y mynoch, yn yr awyr agored, ac heb