ddim rhyngoch a'r wlad oddiallan. Bum yn sefyll arno droion am amser hir, a mi dd'wedaf wrthych yn union pa'm.
Yr oedd y trên yn llawn o deithwyr, ac ni fum yn cyd-drafaelu â theithwyr rhyfeddach yn fy nydd erioed. Brodorion y wlad o'ent gan mwya', yn dduon, a melynion, a chochion,—a budron hefyd lawer o honynt. Eisteddent ar y sedde a'u traed odditanynt fel teilwried, ac ysmygent sigreti'n ddidor. Ychydig sylw wnaent o'u gilydd, a llai fyth o'm siort i, os na fydde eisie tân arnynt; dïolchent am fatsen fel pe bai ffortiwn. Bum am ysbed heb wel'd neb arall, a thybiwn taw myfi oedd yr unig ddyn gwyn yn y lle,—er y gell'sid ame' fy lliw ine. Ond mi gwrddes â dau Ellmyniad yn fuan ar fy hynt drwy'r cerbyde, y rhai a edrychent can wyllted a geifr ar darane. Yr o'wn wedi eu gwel'd o'r blaen y'ngerddi'r Brenin yn Alecsandria. Wrth eu clywed yn ymddifyru gyda'r "ch," mi ofynes iddynt yn Gymraeg:
"Ai sych yr ymbesychasoch?"
Ond edrych arnaf mor hurt a lloi a wnaent. Treies wedy'n:
"Ai chwech-a-chwech yr un a roisoch am berchyll bychen cochion eich hwch goch chwychwi a'ch chwaer?"
Bobl anwyl! Dyma'r gafod greulona'n dilyn mewn atebiad, nes y bu gorfod i mi droi at ryw hen "shêch" a eistedde gyferbyn â mi am am-