ddiffyniad, yr hwn oedd yn dangos ei ddanedd fel pe'n deall y cwbl.
Yr oedd digon o ffenestri yno i foddloni ffatri, ac yr o'ent oll yn agored. Y canlyniad oedd fod y gwynt mwya' dïarbed yn tramwy pob cwr o'r trên, yn cario lon'd ei gôl o dywod, ac yn ei daflu i'ch llyged ac ar draws eich dillad mor ddiseremoni a phe baech wedi rhoi archeb am y cwbl. Lle ofnadwy ydoedd i ddyn oedd yn ferthyr i'r ddanodd! Weithie, fe ddeue'r gwynt gyda'r fath ruthr direidus nes dynoethi'ch pen, oni fyddech ar eich gwyliadwrieth. Gwnaeth hyny â mi siwrne, a bu mor anfoesgar a bwrw fy nghapan i wyneb yr hen "shêch" y sonies am dano. Bu raid i mi wneud ymddiheurad i hwnw drosof fy hun a'r gwynt, a'r aberth cymod oedd haner dwsin o "fatsus." Dyna pa'm y safwn am ysbed ar y platfform, i gael llai o wynt a mwy o gysgod. Ond 'roedd yno ddigon wed'yn i droi meline Sir Fôn bob un! Gwell oedd peidio ffraeo âg ef, oblegid yr oedd meddyginieth yn ei esgyll oddiwrth wres a phob drwg-arogl.
Yn rhyfedd iawn, ni welwn un o'r "rhyw deg" yn un man wrth gychwyn, dim ond dynion geirwon lle bynag yr awn. Ai tybed fod merched yr Aifft yn fwy ceidwadol na'r dynion, gan ddewis yn hytrach lynu wrth yr asyn a'r camel na chymeryd eu llusgo wrth gynffon yr agerbeiriant? Ond cyn cyredd Cairo, mi ge's allan fod ganddynt hwy eu cerbyd eu hunen,