Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

er's meityn. Collasom y ffordd un noson, ac er y myne Jones a'r brawd arall taw i'r cyfeiriad yma y dylasem fyn'd, yr oedd ewyllys Roberts yn gryfach na'r ddau, ac i'r cyfeiriad acw'r aethom. Wedi bod yn crwydro "drwy leoedd geirwon, enbyd iawn," yn chwŷs ac yn lludded—Roberts yn ei brasgamu o'n blaen, Jones a mine'n tuchan ar ei ol, a Huws yn murmur anatheme wrth ein sodle—am awr o amser, cawsom afel ar ein lledred o'r diwedd; ac ebe Roberts mor hunan-feddianol a bricen—

"Fi oedd yn reit, boys, drwy'r cwbwl!"

—yr un fath yn union a phe na baem wedi bod wrthi bum' munud. Yr oedd ganddo allu rhyfeddol i ddisgyn ar ei draed o bob d'ryswch yn y byd. Yr olaf, ond nid y mwya' dibwys o'r tri, oedd Huws—hamddenol, 'smala, gogleisiol ei sylwade, a mwy o stoicieth y Gorllewin yn perthyn iddo nag o nwyd y Dwyren. Ni weles ef yn cael ei gynhyrfu ond siwrne, pan y rho'wd iddo ychydig o dybaco'r Hen Wlad ar ol bod "yn haner starfio'i hun ar sychddail llwydwyn yr Aifft." Mi gredes yn siwr y b'asai'n cael ffit y pryd hwnw. Dyna'r "tri llanc" wnaethant i mi deimlo'n rhydd a chartrefol y'nhir y caethiwed, ac y mae iddynt le cysurus yn ymyl y tân ar aelwyd gynes fy nghalon.

I ddychwelyd i'r orsaf. Ni fu Jones chwinciad cyn gwasgaru fy mhoenwyr, a myn'd a mi mewn "bus" reit gyffredin i'r gwesty lle'r o'wn i aros. Yr oedd hwnw'n cael ei alw ar enw